Davies yn dychwelyd ar gyfer yr ymgyrch Ewropeaidd

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn agor ymgyrch Cwpan Pencampwyr Heineken prynhawn Sadwrn ym Mharc y Scarlets yn erbyn Racing 92.

Fe fydd Wayne Pivac a’i dîm yn gobeithio sicrhau dechrau cadarn i’r ymgyrch gan ail adrodd, ac adeiladu ar, lwyddiant y llynedd.

Llwyddodd y rhanbarth i raddio o’r grwpiau y tymor diwethaf gan gyrraedd y rownd gyn derfynol am y tro cyntaf mewn degawd.

Mae Pivac wedi gallu galw ar y canolwr Jonathan Davie, wedi iddo golli’r gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch penwythnos diwethaf.

Gyda Tom Prydie a Rhys Patchell yn absennol oherwydd anafiadau daw Angus O’Brien a Steff Evans i’r tîm cychwynol. Does dim newid i’r pac a wynebodd y Gweilch penwythnos diwethaf.

Mae Rob Evans yn cymryd lle ar y fainc wedi iddo wella o anaf i’w ysgwydd a ddioddefodd yn y gêm yn erbyn Leinster yn ail rownd y PRO14.

Wrth edrych ymlaen i’r ornest dywedodd Wayne Pivac; “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r ymgyrch Ewropeaidd. Mae gyda ni atogfion melys o’r gystadleuaeth y tymor diwethaf.

“Er dweud hynny ry’n ni eisiau dechrau’n well na’r tymor diwethaf. Mae Racing yn cyflwyno her gwahanol iawn i ni. Fe wnaethon nhw gyrraedd y rownd olaf tymor diwethaf.

“Mae gyda nhw lot o dalent yn y garfan. Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni’n dechrau’n dda ac yn rhoi rhywbeth i’r dorf weiddi amdano.”

.

.

Tîm y Scarlets i wynebu Racing 92 ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 13eg Hydref, cic gyntaf 17:30;

15 Leigh Halfpenny, 14 Johnny McNicholl, 13 Jonathan Davies, 12 Hadleigh Parkes, 11 Steff Evans, 10 Angus O’Brien, 9 Gareth Davies, 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 David Bulbring, 6 Ed Kennedy, 7 Will Boyde, 8 Blade Thomson

Eilyddion ; 16 Ryan Elias, 17 Rob Evans, 18 Werner Kruger, 19 Tom Price, 20 Josh Macleod, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Dan Jones, 23 Paul Asquith

Wedi’u hanafu; Steve Cummins, Lewis Rawlins, James Davies, Dylan Evans, Jonathan Evans, Aaron Shingler, Rhys Patchell, Tom Prydie