Dechreuad cyntaf i Tex wrth i’r Scarlets ddechrau eu her Ewropeaidd

Kieran Lewis Newyddion

Bydd Tevita ‘Tex’ Ratuva un o’n cytundebau newydd y tymor hwn yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Scarlets yng ngêm agoriadol Cwpan Her Ewrop dydd Sadwrn yn erbyn Gwyddelod Llundain ym Mharc y Scarlets (7.45yh).

Fe ymddangosodd Ratuva i Fiji yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Mae’n gael ei leoli yn yr ail reng penwythnos yma mewn ochr sy’n dangos pum newid o fuddugoliaeth Guinness PRO14 y penwythnos diwethaf dros Benetton.

Daw pedwar o’r newidiadau hynny o flaen y pecyn.

Mae prop rhyngwladol Cymru, Rob Evans, yn dychwelyd i’r rheng flaen, tra ar ochr arall y sgrym, mae camlwyddiant diweddaraf y Scarlets Werner Kruger yn cymryd lle Samson Lee.

Bydd Ratuva yn partneru gyda Lewis Rawlins yn y clo ac yn y newid arall mae Uzair Cassiem yn dychwelyd i’r rheng ôl

Daw’r Springbok i mewn wrth ochr y dall gyda Josh Macleod a Blade Thomson, chwaraewr rhyngwladol yr Alban.

Y tu ôl i’r sgrym, mae un newid yn unig gyda Kieron Fonotia yn dod i mewn ar gyfer Paul Asquith yn y canol. Bydd yr asgellwr Corey Baldwin yn ymddangos am y tro cyntaf yn Ewrop.

Mae ad-drefnu ymhlith yr eilyddion, gyda Jac Morgan, chwaraewr rhyngwladol 19 mlwydd oed sydd yn un o sêr dan 20 Cymru ar fin gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda’r carfan hŷn.

Mae Morgan yn aelod o Academi’r Scarlets a bu’n gapten ar y tîm A yn ystod Cwpan Celtaidd y tymor hwn.

Fe allai fod gêm gyntaf Scarlets hefyd i’r maswr Ryan Lamb yn erbyn ei gyn glwb.

Mewn man arall, daw Morgan Williams i mewn i garfan diwrnod y gêm am y tro cyntaf y tymor hwn.

Mae tocynnau ar gael ar gyfer y gwrthdaro Pwll 2 ewch i  tickets.scarlets.wales

Scarlets v Gwyddelod Llundain (Parc y Scarlets, dydd Sadwrn, Tachwedd 16; 7.45yh CG)

15 Johnny McNicholl; 14 Corey Baldwin, 13 Steff Hughes (capt), 12 Kieron Fonotia, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Rob Evans, 2 Taylor Davies, 3 Werner Kruger, 4 Lewis Rawlins, 5 Tevita Ratuva, 6 Uzair Cassiem, 7 Josh Macleod, 8 Blade Thomson.

Eilyddion: 16 Marc Jones, 17 Phil Price, 18 Samson Lee, 19 Steve Cummins, 20 Jac Morgan, 21 Dane Blacker, 22 Ryan Lamb, 23 Morgan Williams.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Jonathan Davies (pen-glin), Rhys Patchell (ysgwydd), Tom Prydie (hamstring), Dan Davis (troed), Tom Phillips (llaw), Joe Roberts (pen-glin).