Bydd WillGriff John yn derbyn ei ddechreuad cyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ôl cael ei enwi yn nhîm y Scarlets sy’n dangos pedwar newid ar gyfer yr ail rownd yn erbyn Emirates Lions ym Mharc y Scarlets (19:35 BBC Wales).
Cyrhaeddodd y prop pen tynn y Gorllewin o Sale Sharks yn ystod yr haf ac yn cyfnewid safle gyda chwaraewr rhyngwladol Cymru Samson Lee, sydd wedi’i enwi ymysg yr eilyddion.
Yn dilyn y sgôr agos dros y penwythnos yn erbyn Caeredin, mae dau newid tu cefn i’r sgrym gyda Tom Rogers yn dod ar yr asgell dde a Sam Costelow yn dechrau fel maswr yn lle Dan Jones.
Bydd Scott Williams a Jon Davies yn parhau yng nghanol cae yn dilyn eu perfformiad trawiadol yng Nghaeredin, gyda Davies yn gapten ar y tîm cartref.
Yn y rheng flaen, bydd Rob Evans a Ryan Elias yn ymuno â John, tra bod ail reng gwbl newydd gyda Jac a Tom Price yn dod i mewn i’r XV gan fod Aaron Shingler a Sam Lousi wedi’u hanafu.
Yn y rheng ôl mae Blade Thomson, Dan Davis a Sione Kalamafoni yn cadw eu llefydd.
Ar y fainc, mae Shaun Evans – newid hwyr i garfan Caeredin – wedi’i enwi fel eilydd, a Morgan Jones sydd ar y fainc fel clo.
Bydd Ioan Nicholas yn gwneud ei 50fed ymddangosiad i’r Scarlets os yw’n dod ar y cae.
Prif hyfforddwr Scarlets Dwayne Peel: “Edrychwn ymlaen at y gêm. Rydym wedi cadw llygad barcud ar y Lions trwy’r Currie Cup ac fe astudiwn eu chwarae o’u gêm wythnos diwethaf yn erbyn Zebre. Cafodd y tîm hanner cyntaf da iawn ac fe gosbwyd Zebre gyda phob cyfle. Mae’r ffaith bod y pedwar tîm mawr o’r De Affrig yn y Bencampwriaeth yn grêt i’r gynghrair ac rydym yn edrych ymlaen at yr her nos Wener.”
Scarlets v Emirates Lions (Parc y Scarlets; 19:35; BBC Wales/Premier Sports)
15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Scott Williams, 11 Steff Evans; 10 Sam Costelow, 9 Kieran Hardy; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 WillGriff John, 4 Jac Price, 5 Tom Price, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.
Eilyddion: 16 Marc Jones, 17 Phil Price, 18 Samson Lee, 19 Morgan Jones, 20 Shaun Evans, 21 Dane Blacker, 22 Dan Jones, 23 Ioan Nicholas.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tom Phillips (knee), Aaron Shingler (back), Sam Lousi (knee), Josh Macleod (Achilles), Rhys Patchell (calf), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Johnny Williams (shoulder), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Tom Prydie (foot), Carwyn Tuipulotu (finger), Iestyn Rees (ankle).