Dechreuad PRO14 cyntaf i Sam yn erbyn y pencampwyr

Aadil Mukhtar Newyddion

Dechreuad Guinness PRO14 cyntaf i’r maswr Sam Costelow ynghyd nifer o newidiadau arall i’r ochr sydd i wynebu’r pencampwyr Leinster ym Mharc y Scarlets ar nos Sadwrn (19:35; S4C & Premier Sports).

Bydd y chwaraewr 20 oed yn derbyn y crys rhif 10 am y tro cyntaf mewn ochr sydd yn cynnwys ond pedwar chwaraewr a wynebodd Gleision Caerdydd penwythnos diwethaf.

Mae Johnny McNicholl yn newid safle o’r asgell i gefnwr gyda Ryan Conbeer a Tom Prydie yn llenwi safleoedd yr asgellwyr. Capten Steff Hughes a Tyler Morgan yn ymuno fel canolwyr, wrth i Costelow a Dane Blacker llenwi’r haneri.

Gwelir rheng flaen brofiadol ymysg Phil Price a Marc Jones wrth iddynt ymuno â Javan Sebastian, tra bod yr ail reng yn gymysg o dalent ifanc a phrofiadol gyda Morgan Jones a Sam Lousi.

Yr Albanwr Blade Thomson yn parhau fel blaenasgellwr; Uzair Cassiem, fydd yn gwneud ei 50fed ymddangosiad i’r Scarlets fydd yn cymryd lle rhif 8 Sione Kalamafoni sydd wedi anafu, a Dan Davis fydd yn ymuno a’r tîm fel blaenasgellwr wrth iddo wella o anaf iddo’i bigwrn.

Pum newid sydd o ran yr eilyddion gyda Taylor Davies, Kemsley Mathias, Carwyn Tuipulotu, Will Homer a Paul Asquith yn ymuno a’r garfan i’r gêm yma. Dyma fydd ymddangosiad PRO14 cyntaf i Tuipulotu, 19, os fydd yn dod oddi’r fainc ar nos Sadwrn.

Roedd gem rownd 8 wedi’i gohirio cyn Nadolig oherwydd Covid-19.

Dywedodd prif-hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Mae’r gêm yma yn rhoi cyfle i’r bois sydd heb chwarae yn ystod yr wythnosau diwethaf i ddod ac egni a chyffro gwahanol i’r grŵp. Ein swydd ni ydy i sicrhau bod y chwaraewyr yma yn cael y cyfle i fynegi hyn.

“Wrth chwarae tîm fel Leinster, mae rhaid cymryd bob cyfle er mwyn cystadlu am y fuddugoliaeth. Rydym yn ymwybodol maen nhw ydy’r tîm i ddilyn. Mae hyn yn gyfle i chwarae yn erbyn y gorau ac rydym wedi cyffroi.”

Scarlets v Leinster (Dydd Sadwrn, Ionawr 30; 19:35, S4C, Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Prydie, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes (capt), 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Dane Blacker; 1 Phil Price, 2 Marc Jones, 3 Javan Sebastian, 4 Morgan Jones, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Uzair Cassiem

Reps: 16 Taylor Davies, 17 Kemsley Mathias, 18 Werner Kruger, 19 Tevita Ratuva, 20 Carwyn Tuipulotu, 21 Will Homer, 22 Angus O’Brien, 23 Paul Asquith.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Sione Kalamafoni (concussion), Steff Evans (leg), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Dylan Evans (shoulder), Samson Lee (concussion), Jac Morgan (knee), Tom Rogers (knee), Pieter Scholtz (hamstring), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Aaron Shingler, Rhys Patchell.

Unavailable because of international duty

Ken Owens, Wyn Jones, Ryan Elias, Jake Ball, Josh Macleod, Kieran Hardy, Gareth Davies, Jonathan Davies, Johnny Williams, Liam Williams, Leigh Halfpenny.