Delaney yn canmol cymeriad yn dilyn buddugoliaeth fawr ym Murrayfield

Rob Lloyd Newyddion

Talodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney teyrnged i gymeriad eu carfan wrth i’r Scarlets trechu’r tîm cartref o 27-25 yng ngêm Cynhadledd B yn y brifddinas.

Roedd angen i’r ymwelwyr gwrthsefyll mwy nag 20 cymal o ymosod gan y tîm cartref i allu cwblhau’r gêm fel buddugolwyr, a oedd yn holl bwysig i sicrhau lle yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor nesaf.

“Roedd ein bwriad yna a theimlais ein bod wedi gwneud digon yn ystod y gêm i allu sgori’r pedwerydd cais,” dywedodd Delaney. “Ond mae rhaid bod yr angen yna gan y ddau ochr o’r bel ac roedd yr ymdrech amddiffynnol yn ystod y munudau diwethaf yn anferthol.

“Dangosodd y bois faint mae chwarae yn y crys yma yn golygu iddyn nhw. Dywedais wrthyn nhw ar ôl y gêm, fel hyfforddwr nad ydyn yn gallu dysgu hynny, mae hynny i lawr i’r cymeriad a ni allaf fod yn balchaf o’r grŵp yma.”

Gyda dwy gêm ar ôl (Munster – oddi cartref a Connacht – cartref), mae’r Scarlets sydd yn y trydydd safle nawr wyth pwynt yn glir o Gleision Caerdydd a 14 pwynt uwchben Caeredin sydd â chwpl o gemau ar ôl.

Mae’r tri thîm uchaf ym mhob cynhadledd wedi gwarantu safle yn haenen uchaf Ewrop tymor nesaf, er gall penaethiaid Ewrop benderfynu ar fwy o safleoedd a fydd yn galluogi’r pedwar uchaf i gymryd rhan.

“Roedd yn fuddugoliaeth enfawr i ni o ran bod yn gymwys i Gwpan Pencampwyr ac i gadw symud ymlaen gyda hyder i’r gêm nesaf yn erbyn Munster a fydd yn brawf anferth arall i ni,” ychwanegodd Delaney.

“Rydym wedi sgori naw o geisiau mewn dwy gêm ac mae angen canmol Dai (Flanagan) a Whiff (Richard Whiffin) am beth maent wedi rhoi mewn lle ac fel mae’r bois yn perfformio.

“Dw i am ganmol ein safle gosod hefyd lle mae Rich Kelly a Ben Franks wedi bod yn gweithio’n galed. Mae gan Gaeredin un o’r safleoedd gosod gorau yn y gystadleuaeth a gallwch weld y gwaith yna trwy’r bachan ifanc Kemsley Mathias ar un ochr a Alex Jeffries ar ei ymddangosiad cyntaf yn dal un o’r propiau pen rhydd mwyaf dinistriol yn y gystadleuaeth sef Pierre Schoeman.

“Roedd yn ymdrech anhygoel ac yn deimlad da i orffen y traddodiad colledig yng Nghaeredin.”

Dyna’r tro cyntaf i’r Scarlets ennill ym Murrayfield ers 2013 gan ddod i derfyn â’r chwe cholled yn olynol yn erbyn yr ochr Albanaidd.