Delaney yn edifarhau ar cyfleoedd a gollwyd

Rob Lloyd Newyddion

Roedd Glenn Delaney wedi’i adael i ofidio am y cyfleoedd a gollwyd ar ôl i’w dîm golli yn erbyn Gleision Caerydd 13-10 ym Mharc y Scarlets.

Roedd y tîm cartref yn mwynhau’r mwyafrif o’r meddiant a tiriogaeth ond wedi methu cyrraedd y llinell i ychwanegu’r pwyntiau ac o ganlyniad wedi colli eu ail gêm yn olynol i’r Gleision.

“Cawsom pedair neu bump gyfle tuag at y llinell ond heb manteisio ar y cyfle,” dywedodd Delaney.

“Roedd y bwriad yna, ond yn brin ar cywirdeb wrth gyflawni. Cawsom digon o gyfleoedd a dylem fod wedi manteisio ar hynny. Mae rhaid i ni wella am y cyfleoedd yna,

“Rydym yn ymwybodol o gryferoedd y Gleision, ond roedd ganddyn ni digon o feddiant a tiriogaeth i sgori mwy o bwyntiau nag y gwnaethom a hynny yw’r rhwystredigaeth mwyaf.”

Fe ddaeth wythwr y Scarlets Sione Kalamafoni oddi’r cae ar ôl iddo derbyn ergyd i’w ben yn ystod yr ail hanner, ond falch i weld Sione yn cerdded ambwyti ar ôl y gêm.

Dychwelodd y capten Ken Owens gan chwarae ei gêm cyntaf ers iddo dderbyn anaf yn ystod gêm Glasgow ym mis Hydref.

“Roedd Ken yn barod i ymdrechu ac yn llawn egni. Mae’n grêt i’w gael yn ôl ar y cae,” ychwanegodd Delaney.