Deuawd Cymru yn dychwelyd i gryfhau’r ochr yn erbyn Benetton

Rob Lloyd Newyddion

Chwaraewyr rhyngwladol Jake Ball a Ryan Elias wedi’u cynnwys yn yr ochr i wynebu Benetton ar ddydd Sadwrn i ailddechrau’r Guinness PRO14 ym Mharc y Scarlets (15:00 Premier Sports).

Cafodd y ddau eu rhyddhau o’r garfan Chwe Gwlad i alluogi amser chwarae yn ystod y seibiant o’r bencampwriaeth, ac maent ymysg y pum newid i’r tîm sydd i ddechrau i’r Scarlets.

Mae Steff Evans yn ôl ac yn dechrau yn y crys rhif 11, gan gymryd ei le wrth ochr chwaraewr rhyngwladol Cymru Johnny McNicholl a Ryan Conbeer.

Tyler Morgan a’r capten Steff Hughes sydd yn parhau yng nghanol cae, wrth i Sam Costelow a Dane Blacker dechrau fel haneri.

Yn y rheng flaen mae Elias, gyda Phil Price a Javan Sebastian wrth ei ochr, gyda Ball nesa at Morgan Jones fel clo.

Yn y rheng ôl mae Sione Kalamafoni a Jac Morgan yn ôl yn chwarae. Kalamafoni wedi gwella o’r ergyd i’w ben yn ystod gêm cartref yn erbyn y Gleision, tra bod Morgan yn dechrau am y tro cyntaf ers ei ymddangosiad yn erbyn Caerfaddon ym mis Rhagfyr yng Nghwpan y Pencampwyr. Mae Uzair Cassiem yn newid o wythwr i flaenasgellwr.

Ar y fainc mae’r prop Steff Thomas am wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14 wrth iddo ymuno â Pieter Scholtz, Sam Lousi a Ed Kennedy ymysg yr eilyddion i’r blaenwyr.

Will Homer, Dan Jones a Paul Asquith yw’r eilyddion am y cefnwyr.

Prif hyfforddwr Glenn Delaney

“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn gynhyrchiol ers chwarae Leinster. Mae’n bwysig i ni fod yn amyneddgar ac i weithio ein ffordd i mewn i’r gystadleuaeth, rhywbeth a wnaethom yn dda iawn mewn amodau gwael allan yn Nhreviso. Mae angen i ni gael y cydbwysedd yn gywir a gweithredu’n llwyddiannus.

“Mae’r pedwar gêm nesaf yn holl bwysig i ni gyda safleoedd Ewropeaidd i gystadlu am, fydd hi’n frwydr ymysg ein pool.”

Scarlets v Benetton (Parc y Scarlets, 15:00, Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Ryan Conbeer, 13 Tyler Morgan, 12 Steff Hughes (capt), 11 Steff Evans; 10 Sam Costelow, 9 Dane Blacker; 1 Phil Price, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Jake Ball, 5 Morgan Jones, 6 Uzair Cassiem, 7 Jac Morgan, 8 Sione Kalamafoni.

Reps: 16 Marc Jones, 17 Steff Thomas, 18 Pieter Scholtz, 19 Sam Lousi, 20 Ed Kennedy, 21 Will Homer, 22 Dan Jones, 23 Paul Asquith.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Josh Macleod (Achilles), Blade Thomson (concussion), Lewis Rawlins (neck), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), Tom Rogers (knee), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Kemsley Mathias (back), Aaron Shingler, Rhys Patchell.

Unavailable because of international duty

Ken Owens, Wyn Jones, Kieran Hardy, Gareth Davies, Jonathan Davies, Johnny Williams, Liam Williams, Leigh Halfpenny.