Mewnwr Scarlets Kieran Hardy a’r bachwr Ryan Elias sydd wedi’u henwi i wynebu’r Springboks yn Loftus Versfeld ar Ddydd Sadwrn wrth i Gymru cychwyn cyfres yr haf (CG 4.05yp DU yn fyw ar Sky Sports Action gyda’r uchafbwyntiau ar S4C).
Hardy sy’n cael ei ddewis o flaen Gareth Davies a Tomos Williams i ennill ei chweched ddechreuad yng nghrys Cymru, wrth i Elias dychwelyd i safle’r bachwr. Dyma fydd nawfed ymddangosiad Ryan i XV Gymru tymor yma.
Blaenasgellwr Leicester Tigers Tommy Reffell bydd yn ennill ei gap cyntaf i Gymru ar ôl cael ei ddewis ar yr ochr agored. Yn cyn gapten i Gymru Dan 18 a 20, Tommy fydd y 1,178fed chwaraewr rhyngwladol i Gymru pan yn camu ar gae Pretoria.
Bydd y chwaraewr yn gwisgo bandyn du ar eu breichiau i dalu teyrnged i gyn capten Llanelli a Llywydd y Scarlets Phil Bennett, a bu farw mis yma.
Dywedodd prif hyfforddwr Wayne Pivac: “Mae De Affrica yn bencampwyr byd. Rydym wedi chwarae yn eu herbyn yn ddiweddar yn yr Hydref ond nad ydyn yn credu bydd llawer o newid. Mae ganddyn nhw ochr cryf iawn, ond nad ydym yn disgwyl newid mawr o’u chwarae i gymharu a’u perfformiad blaenorol ac mae hynny wedi profi’n effeithiol iddyn nhw. Rydym yn disgwyl gêm heriol.
Mae’r Loftus Versfeld wedi’i werthu allan ar gyfer y gêm, gyda’r Springboks yn paratoi i chwarae o flaen torfeydd llawn ar tomen eu hunain am y tro cyntaf ers ennill Cwpan y Byd.
Wrth sôn am hynny, ychwanegodd Pivac: “Dyma ein taith cyntaf fel grwp felly mae’n wych i ni. Mae’r bois wedi paratoi’n dda trwy’r wythnos, a wedi mwynhau cwmni ei gilydd a bod mewn amgylchedd newydd. Mi fydd awyrgylch da yna ar Ddydd Sadwrn, her i’r bois ond un rydym yn edrych ymlaen at wynebu.”
Carfan Cymru ar gyfer y Prawf 1af yn erbyn De Affrica (Dydd Sadwrn Gorffennaf 2, CG 4:05yp BST. Yn fyw ar Sky Sports Action gyda’r uchafbwyntiau ar S4C)
15. Liam Williams (Cardiff Rugby); 14. Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby), 13. George North (Ospreys), 12. Nick Tompkins (Saracens), 11. Josh Adams (Cardiff Rugby); 10. Dan Biggar (Northampton Saints, capt), 9. Kieran Hardy (Scarlets); 1. Gareth Thomas (Ospreys), 2. Ryan Elias (Scarlets), 3. Dillon Lewis (Cardiff Rugby), 4. Will Rowlands (Dragons), 5. Adam Beard (Ospreys), 6. Dan Lydiate (Ospreys), 7. Tommy Reffell (Leicester Tigers), 8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby)
Eilyddion: 16. Dewi Lake (Ospreys), 17. Rhys Carré (Cardiff Rugby), 18. Tomas Francis (Ospreys), 19. Alun Wyn Jones (Ospreys), 20. Josh Navidi (Cardiff Rugby) , 21. Tomos Williams (Cardiff Rugby), 22. Gareth Anscombe (Ospreys), 23. Owen Watkin (Ospreys).