Deuddeg Scarlet yng ngharfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref

Menna Isaac Newyddion

Mae prif hyfforddwr Cymru, sy’n dechrau ar ei waith yn ei dymor olaf yng Nghymru, wedi enwi ei garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref a fydd yn digwydd yn Stadiwm Principality Caerdydd.

Mae deuddeg Scarlet wedi eu henwi yn y garfan ar gyfer y profion cyntaf yn nhymor Cwpan Rygbi’r Byd.

Y deuddeg Scarlet yw Rob Evans, Wyn Jones, Ken Owens, Ryan Elias, Samson Lee, Jake Ball, Gareth Davies, Rhys Patchell, Hadleigh Parkes, Jonathan Davies, Steff Evans a Leigh Halfpenny

Fe fydd Cymru yn chwarae pedair gêm brawf;

  • Sadwrn 3yddTachwedd v yr Alban
  • Sadwrn 10fed Tachwedd v Awstralia
  • Sadwrn 17eg Tachwedd v Tonga
  • Sadwrn 24ain Tachwedd v De Affrica