“Digon o waith i’w wneud, ond rydym yn hapus gyda’r fuddugoliaeth”

Rob Lloyd Newyddion

Llwyddodd y Scarlets i drechu’r Gweilch ar ôl ymladd yn ôl o 14-6 yn yr ail hanner, i orffen y gêm yn fuddugol gyda 16 pwynt i 14 ym Mharc y Scarlets.

Yn dilyn y chwiban olaf, rhannodd y prif hyfforddwr Glenn Delaney ei farn gyda’r cyfryngau.

Glenn, beth yw eich sylwadau yn dilyn y fuddugoliaeth yna? 

“Rydym yn falch iawn o’r fuddugoliaeth, dwi’n hapus iawn gyda’r diweddglo ond mae digon o waith i’w wneud. Roedd y sgôr yn agos iawn trwy gydol y gêm ac mae hynny’n ffactor pwysig iawn yn enwedig mewn gem darbi. Er hyn, roedd nifer o bethau wedi ein gadael i lawr megis sgiliau a’r nifer o giciau cosb, roedd ein diffyg disgyblaeth yn amlwg ac mae angen i ni weithio ar hynny. Nad oedd y bois wedi chwarae am dros wythnos a fwy, ac roedd hynny’n dangos yn ein ffordd o chwarae yn enwedig gyda’n hamseri. Yn bersonol, credais fod y Gweilch wedi chwarae yn dda iawn wrth roi pwysau arnom ni ac yn gallu cymryd pwyntiau trwy gydol y gêm.”

O ran y fainc, pa mor bwysig oedden nhw i’r gêm?

GD: “Anferthol, mae Blade yn berson tawel, ac yn chwaraewr talentog a greddfol. Mae’n gallu darllen y gêm yn dda. Gwnaeth Tevita Ratuva gwaith da ar y cae hefyd, mae’n ddyn corfforol iawn; a Pieter Scholtz wedi creu argraff dda ar ei gêm gyntaf. Roedd y fainc wedi gwneud cyfraniad da i’r gêm.

Pa mor rhyfedd oedd chwarae heb dorf ar gêm darbi? 

GD: “12 mis yn ôl roedd 15,000 o gefnogwyr yma ac yn sicr roedd hynny yn brofiad anhygoel. Roedd y stadiwm yn egnïol iawn. Rydym yn ffodus iawn i allu bod yn y sefyllfa yma, ac rydym yn edrych ymlaen at allu croesawi’r cefnogwyr yn ôl mor gynted ag sy’n bosib. Mawr obeithiwn eu bod wedi ffeindio cyfle i allu ein cefnogi yn ystod y gêm, a bod yn rhan o’r profiad. Mae’r tymor darbi yn gyfnod llawn angerdd, yr unig beth sydd eisiau yw’r bobl, a fyddai’r cefnogwyr wedi mwynhau’r gêm yma.”

Beth yw’r sefyllfa o ran chwaraewyr yn dychwelyd? 

GD: “Ar hyn o bryd, mae’n gyfnod o fois yn dod mewn a mas, fel Johnny McNicholl cyn y gic cynta’. Mae hyn yn rhywbeth mae rhaid i bob hyfforddwr wynebu, mae pob ddiwrnod yn sialens wahanol, ond mae rhaid ei wynebu gyda meddylfryd positif. Mae’n gyfnod rhyfedd ar hyn o bryd, ond rydym yn ceisio i gadw’n positif am ein rygbi.”