Dim newid i linell gefn y Scarlets

Menna Isaac Newyddion

Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, wedi enwi ei dîm ar gyfer gêm prynhawn Sadwrn yn y Guinness PRO14 yn erbyn Benetton Rugby ym Mharc y Scarlets, cic gyntaf 17:15.

Does dim newid i’r linell gefn a wynebodd Leinster penwythnos diwethaf gyda Johnny McNicholl yn llwyddo i basio ei brawf ffitrwydd ar ôl dod oddi ar y cae wythnos diwethaf.

Mae dau newid wedi eu gwneud i’r pac yn dilyn anafiadau i’r prop penrhydd Rob Evans a’r reng ôl Josh Macleod. Daw Phil Price i mewn i’r reng flaen gyda Blade Thomson yn symud i safle’r wythwr ac Ed Kennedy yn dod i mewn i safle’r blaenasgellwr.

Ar y fainc eilyddion daw Wyn Jones yn ôl o anaf, mewn da bryd hefyd o ystyried yr anaf i Rob Evans, ac fe ddaw Paul Asquith yn ôl hefyd ar ôl dioddef anaf i’w benglin nôl ym mis Mawrth.

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Pivac; “Maen nhw wedi ennill dwy gêm. Fe wnaethon ni chwarae yn eu herbyn pedwar gwaith y llynedd. Ry’n ni’n ymwybodol o’r her y maent yn ei gyflwyno.

“Mae gyda ni digon o barch atyn nhw. Fe fydd yn rhaid i ni fod yn orfforol. Ry’n ni eisiau adeiladu ar momentwm wythnos diwethaf a pharhau i symud i’r cyfeiriad cywir.”

Tîm y Scarlets i wynebu Benetton ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 15fed Medi, cic gyntaf 17:15;

15 Leigh Halfpenny, 14 Tom Prydie, 13 Kieron Fonotia, 12 Hadleigh Parkes, 11 Johnny McNicholl, 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies, 1 Phil Price, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Jake Ball, 5 Steve Cummins, 6 Ed Kennedy, 7 James Davies, 8 Blade Thomson

Eilyddion; 16 Ryan Elias, 17 Wyn Jones, 18 Werner Kruger, 19 David Bulbring, 20 Dan Davis, 21 Sam Hidalgo-Clyne, 22 Paul Asquith, 23 Ioan Nicholas

Yn absennol oherwydd anafiadau; Aaron Shingler, Jonathan Davies, Uzair Cassiem, Dylan Evans, Jonathan Evans, Will Boyde, Angus O’Brien, Rob Evans, Josh Macleod