Diweddaraf ar ffitrwydd a her Munster

Rob Lloyd Newyddion

Siaradodd ein prif hyfforddwr Dwayne Peel â’r wasg o flaen gêm rownd tri yn y URC yn erbyn Munster ym Mharc y Scarlets.

Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud …

Beth wyt ti’n i feddwl o’r perfformiad yn erbyn y Lions?

DP: “Roedd hi sicr yn gam i fyny o Gaeredin, sy’n dda. Nad oeddwn lle rydym eisiau bod, ond yn gam yn y cyfeiriad cywir. Siaradon ar ôl y gêm yng Nghaeredin am sut rydym am chwarae ac roedd nodau da yna. Dwi’n credu fe adawon rhai ceisiau allan a ddim cweit mor technegol a ddylse ni fod, ond yn sicr roedd yna gwelliant amddiffynol. Edrychwn yn gyfforddus yn ein set gan ddangos angerdd ac yn benderfynol yn eu 22 i gadw nhw mas.”

Beth ydy’r diweddaraf o ran anafiadau?

DP: “Mae Shings yn dangos gwelliant. Fe gymerodd rhan yn ein ymarferion ar ddydd Mawrth sy’n grêt, roedd ei anaf ar ôl Caeredin wedi’i frifo ar ei gefn, ond serch hynny mae wedi gwella’n gyflym ac yn benderfynol o wneud hynny. Mae gan Sam Lousi anaf i’w benglin ac rydym yn rheoli hynny. Fe welwn ei sefyllfa tuag at ddiwedd yr wythnos. Mae posibilrwydd i’r ddau gymryd rhan wythnos yma. Mae Johnny Williams nôl yn ymarfer ac ar gael i chwarae; bydd Josh Macleod rhyw wythnos neu ddau; mae Patch dychwelyd yn araf ac wedi dechrau rhediadau. Does dim dyddiad ar ddychweliad Patch, ond sai’n credu fydd yn hir iawn, mae’n grêt i’w weld nôl ar y cae ymarfer.”

Bydd Llewod y Scarlets yn cymryd rhan ar y penwythnos?

DP: “Bydd tri ar gael. Mae Liam Williams yn gwella o lawdriniaeth i dynnu ei appendix mas. Mae Liam nôl gyda’r clwb, ond mae’n anffodus iddo ac i ni ei fod allan ar gyfer y bloc yma o gemau.”

Beth oedd dy farn ar Munster penwythnos diwethaf?

DP: “Galle’r Munster fod wedi tu ôl o 20 o bwyntiau yn yr hanner cyntaf wrth i Stormers chwarae rygbi da. Ond wnaeth Munster llwyddo i gael cais yn yr hanner cyntaf a dibynnu ar eu pwer i sgori a cael y buddugoliaeth yn y pen draw. Rydym yn disgwyl brwydr gorfforol, ac fyddyn nhw’n barod i ddod yma i’n herio. Dyna’r sialens i ni, ac rydym yn parchu hynny ac yn ymwybodol bod y dwyster yn cynyddu wythnos yma.”

Beth yw’r sialens wrth chwarae Munster?

DP: “Mae’n bwysig i ni i gadw’r dyfnder trwy gydol y gêm. Ni fydd Munster yn colli tempo a dyna’r ffocws i ni. Byse nifer o dimau yn torri i lawr ar ôl yr hanner cynta’ yna ar ôl dod o dan y fath yna o bwysau. Mae rhaid i ni dorri mas y gwallau a gwella ein disgyblaeth o benwythnos diwethaf. Os yw hynny’n digwydd eto, bydd Munster yn rhoi’r bel yn ein 22 a fyddwn yn amddiffyn trwy’r dydd.”