Diweddariad carfan: Tom Prydie i adael y Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Cadarnhawyd y clwb bod y chwaraewr rhyngwladol Tom Prydie wedi gadael y Scarlets yn dilyn pedwar tymor yng Ngorllewin Cymru.

Chwaraeodd Tom 40 o gemau yn ystod ei amser yn Llanelli, gan sgori 10 o geisiau, gan gofio’i gais nodweddiadol yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Toulon ym Mharc y Scarlets yn 2018. Gwnaeth ei berfformiadau yn ystod y flwyddyn honno ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer yr haf.

“Mae Tom wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r garfan dros y pedwar tymor diwethaf ac wedi chwarae rhan enfawr yn ein hymgyrch Ewropeaidd yn 2018,” dywedodd Rheolwr Cyffredinol Rygbi Jon Daniels. “Hoffwn ddiolch iddo am ei ymroddiad i’r Scarlets a dymunwn y gorau iddo ar beth sydd i ddod nesa.”

Mae’r Scarlets hefyd yn cadarnhau bod y chwaraewr ail reng Lloyd Ashley wedi dychwelyd i’r Gweilch yn dilyn ei gyfnod byr ar lôg.

Chwaraeodd Lloyd i’r Scarlets tair o weithiau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gan ddod oddi’r fainc yn ystod y fuddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn Benetton y tro diwethaf allan.