Mae Liam Williams wedi gwella o anaf i’w droed sydd wedi ei atal rhag chwarae i’r Scarlets hyd yn hyn y tymor hwn. Mae wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru i hyfforddi gyda’r Scarlets cyn gwrthdaro Guinness PRO14 Dydd Gwener yn erbyn Benetton.
Mae Ken Owens wedi cael llawdriniaeth ar yr anaf i’w ysgwydd a gafodd yn erbyn Glasgow a disgwylir na fydd ar gael am dri i bedwar mis.
Mae Josh Macleod wedi dechrau ei adferiad ar gyfer anaf hamstring a gafodd yn erbyn Glasgow. Bydd yn targedu dychwelyd i chwarae ym mis Rhagfyr.