Diweddariad disgyblu – Josh Helps

Rob Lloyd Newyddion

Mae ail reng y Scarlets, Josh Helps, wedi’i wahardd am bum wythnos ar ôl i broses ddisgyblu ddigwydd ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 4) yn deillio o’r cerdyn coch a gafodd yn ystod rownd 4 y Guinness PRO14.

Dangoswyd cerdyn coch i’r chwaraewr yn ystod gêm y Scarlets yn erbyn Caeredin ddydd Sul, Tachwedd 1 ym Mharc y Scarlets gan y dyfarnwr Chris Busby (IRFU) o dan Gyfraith 9.11 – rhaid i chwaraewyr beidio â gwneud unrhyw beth sy’n ddi-hid neu’n beryglus i eraill.

Llywyddwyd y broses ddisgyblu am y drosedd cerdyn coch gan y swyddog barnwrol John Carroll (IRFU). Derbyniodd y chwaraewr fod ei weithredoedd yn ddi-hid a bod y drosedd yn cyfiawnhau cerdyn coch. Barnwyd bod y digwyddiad yn drosedd pen uchaf, sy’n cario ataliad o 10 wythnos.

Ar ôl adolygu’r holl dystiolaeth a oedd ar gael ac ystyried cofnod disgyblu glân blaenorol y chwaraewr, derbyn ei weithredoedd, cydweithredu a’i ymddiheuriad, dilynodd y swyddog barnwrol ganllawiau Rygbi’r Byd a chymhwyso lliniaru, gan ddod â’i waharddiad i bum wythnos.

Rheolwr cyffredinol rygbi Scarlets, Jon Daniels

“Yn gyntaf oll, hoffai pawb yn y Scarlets ddymuno’n dda i George Taylor yn ei adferiad o’i anafiadau.

“Rydym yn llwyr dderbyn dyfarniad heddiw o’r panel disgyblu. Mae Josh yn derbyn bod y dacl yn ddi-hid ac yn dechneg wael, ond nid oedd malais yn gysylltiedig. Nid Josh yw’r math hwnnw o berson na’r math hwnnw o chwaraewr ac mae ganddo gofnod disgyblu glân.

“Rydyn ni wedi siarad yn helaeth â Josh am y digwyddiad ac mae’n derbyn yn llwyr iddo gael ei dechneg taclo yn anghywir ac mae’r hyfforddwyr yn gweithio gydag ef ar hynny.

“Hoffem hefyd ei gwneud yn glir bod Josh wedi mynd i mewn i’r ystafell feddygol ar ôl y gêm i wirio George ac i ymddiheuro. Rydyn ni hefyd wedi siarad â Chaeredin am roi Josh mewn cysylltiad â George unwaith y bydd yn gwella. ”