Diweddariad i gefnogwyr – gêm Caeredin

Gwenan Newyddion

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, rydym yn falch i gadarnhau byddwn yn croesawu cefnogwyr nôl, at gapasiti cyfyngedig, i Barc y Scarlets am ein gêm ddiwethaf yng Nghwpan yr Enfys ar ddydd Sul, Mehefin 13 yn erbyn Caeredin.

Hoffwn ymestyn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth barhaus trwy gydol y tymor heriol yma ac rydym yn falch iawn i allu croesawu nôl ein cefnogwyr ffyddlon i’r stadiwm yn ddiogel.

Gan weithio wrth ochr Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, rydym wedi ymgymryd asesiad iechyd a diogelwch llawn o’r stadiwm ac oherwydd y rheol dwy fedr sydd yn lle, bydd nifer cyfyngedig ar draws y pedwar stand a’r Teras Gogledd.

O ran tocynnau, bydd yr unigolion sydd wedi prynu tocyn tymor ar gyfer tymor 2020-21 yn cael blaenoriaeth.

  • Dyrennir un tocyn i bob deiliad tocyn tymor
  • Yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru bod uchafswm o dair gartref yn nawr gallu cyfarfod, gall deiliaid tocynnau tymor ddewis bod mewn ‘bubble’ gyda dwy aelwyd arall. Ee. Gall tri theulu / ffrind sy’n ymuno â’r un ‘bubble’ eistedd gyda’i gilydd yn y stadiwm
  • Dydd Llun am hanner dydd, bydd deiliaid tocynnau tymor yn derbyn cyfathrebiadau ar sut i ddewis eich ‘bubble’.
  • Bydd angen wich rhif tocyn tymor (ar ochr dde o’ch cerdyn tymor) i allu archebu eich tocyn ac mae gennych hyd ar ddydd Mawrth am 5yp i gadarnhau eich ‘bubble’. Os nag oes gennych eich cerdyn tymor, cysylltwch â’r swyddfa docynnau (01554 292939) neu edrychwch am eich e-bost o gadarnhad o brynu tocyn.
  • Byddwch yn derbyn cadarnhad bod gennych docyn ar ddydd Mercher yn ogystal â manylion ar sut i hawlio’ch tocyn trwy ticketmaster neu drwy swyddfa docynnau Parc y Scarlets. Byddai’n well gennym pe bai pob pryniant yn digwydd ar-lein. Gellir cael mynediad i’r stadiwm dros y ffôn neu docynnau wedi’u hargraffu gartref.
  • Mae gennych tan ddydd Iau am 5yp i hawlio’ch tocyn
  • Unwaith y bydd pob deiliad tocyn tymor wedi prynu, os bydd unrhyw docynnau ar ôl, bydd yr opsiwn ar gyfer tocynnau yn mynd i ddeiliaid tocynnau tymor o 2019-20, a fydd yn mynd i mewn i balot.
  • Bydd yn rhaid i bawb sy’n hawlio tocyn i’r gêm lenwi holiadur iechyd a diogelwch cyn mynd i mewn i’r stadiwm.
  • Ni fydd ciosgau bwyd a diod ar agor y tu mewn i’r stadiwm. Bydd gwylwyr yn gallu dod ag un ddiod feddal yr un (ni chaniateir alcohol). Bydd gofyn i wylwyr wisgo mwgwd trwy gydol eu hamser yn y stadiwm.

Os bydd newid hwyr ac na all y gêm fynd yn ei blaen neu os na all torfeydd fod yn bresennol, ad-delir eich tocyn tymor gyda chredyd pro-rata i’ch cyfrif tocyn Scarlets.

Unwaith eto, diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Bydd ein swyddfa docynnau ar agor o ddydd Llun am 1yp ar 01554 292939 ar gyfer unrhyw ymholiadau, ond byddwch yn amyneddgar os gwelwch i fod yn dda. Mae’r llinellau yn debygol o fod yn brysur iawn.

Diolch yn fawr