Annwyl Deiliad Tocyn Tymor
Wrth i ni edrych ymlaen at eich croesawu i’n gêm Cwpan yr Enfys ar ddydd Sul, Mehefin 13 (13:00) dyma’r camau sydd angen i chi gymryd er mwyn hawlio eich tocyn.
Rydym wedi cadw’r broses mor syml ag sy’n bosib gan gadw at ganllawiau iechyd cyhoeddus ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni baratoi i adael cefnogwyr i mewn i’r stadiwm mewn yn ddiogel.
Y peth cyntaf sydd angen i chi wneud yw dewis eich swigod cymdeithasol (y bobl rydych am eistedd neu sefyll nesaf at yn y stadiwm)
MAE ANGEN I HYN GAEL EI WNEUD ERBYN DYDD MAWRTH, MEHEFIN 8 AM 5YP
- Gallwch eistedd nesaf at bobl o’ch aelwyd/tŷ (sydd yn ddeiliaid tocyn tymor)
- Pan rydych wedi dewis pwy fydd yn eich swigen, mae angen penodi arweinydd i’r grŵp a fydd yn derbyn holl docynnau’r swigen. Wedyn mae angen dilyn y pedwar cam yma.
Cam 1 – Mewngofnodwch i mewn i’ch cyfrif tocynnau ar tickets.scarlets.wales
Cam 2 – Cliciwch ar ‘My Account’ ar gornel chwith y sgrîn ac o’r rhestr cliciwch ar NETWORK
Cam 3 – Cliciwch ar ‘ADD MEMBERS’ a bydd ffenest newydd yn ymddangos
Cam 4 – Rhowch i mewn eich Rhif Cyfrif (Client Ref ar eich cerdyn tocyn tymor) a chyfenw a cliciwch SEARCH. Bydd neges yn ymddangos yn gweud 1 Member Found, cliciwch ar y botwm du sydd ADD MEMBER
Rydych nawr wedi cwblhau’r broses a bydd neges yn ymddangos yn dweud eich bod wedi llwyddo i ychwanegu person i’r cyfrif. Mae angen i chi ddilyn y camau yma ar gyfer pob aelod o’ch swigen.
Unwaith rydych wedi gwneud hyn byddwn yn cysylltu â chi ar ddydd Mercher ar e-bost a chyfryngau cymdeithasol ar sut i hawlio eich tocynnau am y gêm.
- Byddwch yn ymwybodol bydd tocynnau uniongyrchol yn cael eu dosbarthu am y gêm yma, ni fyddwn yn derbyn cardiau tocyn tymor am fynediad. Rydym yn eich annog i argraffu eich tocyn adref neu dangoswch ar eich ffôn ar fynediad i’r stadiwm. Os nad yw hi’n bosib gwneud hyn, fe allwch gasglu eich tocyn o Barc y Scarlets erbyn 7yh ar ddydd Gwener.
- Ni ellir trosglwyddo’r tocynnau yma fel ein bod gallu dilyn canllawiau Covid-19 ac iechyd cyhoeddus gyda’r system ‘track and trace’. Bydd angen dangos ID er mwyn dod i mewn i’r stadiwm.
- Os nad ydych eisiau tocyn i’r gêm, nad oes angen i chi wneud unrhywbeth a bydd eich tocyn yn mynd i mewn i’r balot yn awtomatig. Os nad oes gennych fynediad i gyfrif ar-lein neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01554 292939. Mae’n debygol fydd y llinellau yn brysur felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch i fod yn dda