Dwayne Peel yn annog ei chwaraewyr i ddychwelyd yn gryfach ar ôl colled y Bulls

Rob Lloyd Newyddion

Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi dweud iddo’i chwaraewyr i ddod nôl yn gryfach yn erbyn Zebre wrth iddyn nhw baratoi i deithio i’r Eidal ar gyfer gêm Dydd Sadwrn.

Dychwelodd y garfan o Dde Affrica ar Ddydd Sul yn dilyn yr ail golled yn ar y daith yn erbyn Vodacom Bulls yn Pretoria.

Dechreuad araf i’r ymwelwyr wnaeth selio’r gêm wrth i’r Bulls domineiddio ar fuddugoliaeth 57-12 ac mae Peel wedi annog ei chwaraewyr i daro nôl yn gyflym wrth iddyn nhw droi at baratoadau Parma.

“Fe wnaeth y dechreuiad diffinio’r gêm i ni, siaradon yn yr wythnos am ba mor bwysig yw ddechrau’r gêm. Gwelon beth wnaethon nhw i Munster, ac yn anffodus nad oedd y dechreuad yn ddigon da ac wrth iddyn nhw fod yn dîm corfforol roedd hynny’n anodd i ni rheoli,” dywedodd Peel.

“Pan edrychwn ni nôl ar y gêm byddwn yn siomedig iawn ar ein chwarae. Teimlais roedd gormod o gamgymeriadau ac wnaeth hynny adeiladu’r momentwm iddyn nhw. Mae digon gyda ni i weithio ar yn yr wythnos. Unwaith i’r momentwm yna godi roedd hi’n anodd iawn i ni dynnu’r pwer nôl.

“Wrth dweud hynny, mae’r pythefnos diwethaf wedi bod yn dda iawn i ni o ran dod bant a rhoi cyfleoedd i’r bois ifanc a deall beth yw’r daith.

“Siaradais gyda’r bois yn yr ystafell newid ar ôl am yr angen i fod ar y lefel cywir ac os nad ydych ar y lefel cywir yn erbyn tîm fel hyn, fe gewch eich cosbi. Mae sawl ochr wedi bod yma ac wedi’u cosbi yr un ffordd, yn anffodus ni oedd ar cefn hynny. Roedd hi’n noson anodd i ni, ond mae rhaid i ni gymryd yr amser yma i ddod dros hynny a gweithio’n galed ar sicrhau ein bod yn well erbyn wythnos nesaf.”