Dwayne Peel yn troi i gyn-hyfforddwr Wasps i lenwi swydd Dai Flanagan

Rob Lloyd Newyddion

Fe all Scarlets cadarnhau bydd Lee Blackett, cyn prif hyfforddwr Wasps, yn llenwi rôl hyfforddwr yr olwyr a sgiliau fel rhan o garfan hyfforddi Dwayne Peel. Bydd Lee yn llenwi swydd Dai Flanagan ac yn llenwi’r rôl o Ddydd Llun am weddill y tymor.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel:

“Rwy’n hapus iawn i groesawu Lee i’r tîm yma ym Mharc y Scarlets. Mae’n hyfforddwr uchel ei barch sydd wedi cael effaith da yn ei swydd gyda’r Wasps pan iddo gymryd drosodd wrth Stephen Jones yn 2015. Yn ystod ei amser yn y rôl, cyrrhaeddodd Wasps y rownd derfynol o’r gynghrair yn 2017 ac fel prif hyfforddwr, fe wnaeth Lee eu harwain i’r rownd derfynol o’r Cwpan Gallagher.”

Dywedodd Lee Blackett:

Pan cysylltodd Dwayne i drafod am y rôl o Hyfforddwr yr Olwyr a Sgiliau gyda’r Scarlets, roeddwn i wrth fy modd. Mae ein athroniaethau rygbi yn debyg ac ryw’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae rhan yn datblygu cynllun Dwayne gyda’r Scarlets. Mae hefyd yn wych i ymuno â thîm sydd gyda chysylltiad agos gyda’r gymuned a hanes sy’n ymestyn nôl 150 mlynedd.

Dywedodd Jon Daniels, Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets:

Rydym wedi cymryd ein hamser i lenwi’r rôl yn dilyn ymadawiad Dai Flanagan er mwyn ffeindio’r person a hyfforddwr cywir i ymuno’r carfan hyfforddi. Yn Lee, rydym yn teimlo ei fod yn berson sy’n ticio’r ddau bocs. Edrychwn ymlaen at groesawu Lee i Barc y Scarlets ac rwy’n siwr ei fod yn edrych ymlaen at gychwyn paratoadau ar gyfer y rownd nesaf o gemau yn y URC a gemau Ewropeaidd.”

Gêm gyntaf Lee gyda’r Scarlets bydd yr 8fed rownd o’r URC yn erbyn y Stormers yn Cape Town ar Tachwedd 25ain.