Dwbl i Dane am wobr chwaraewr y mis

Rob Lloyd Newyddion

Mae Dane ati unwaith eto, wrth ennill y bleidlais chwaraewr y mis Olew Dros Gymru am yr ail fis yn olynol.

Enillodd 50% o’r bleidlais ar-lein, gan faeddu Leigh Halfpenny, Kieran Hardy a Ryan Elias am y wobr ar gyfer mis Mai.

Mae Blacker wedi mwynhau ymgyrch lwyddiannus ar ei ran ac yw brif sgoriwr y Scarlets y tymor yma gyda naw cais i’w enw, gan wthio ei hun am safle yn y garfan ryngwladol ar gyfer yr haf yn erbyn yr Ariannin a Canada.

Mae ar hyn o bryd yn gwella o anaf i’w droed ond yn obeithiol fydd yn iach i chwarae yn rownd derfynol Cwpan yr Enfys yn erbyn Caeredin ar Fehefin 13.

Dane yw’r Scarlet cyntaf i gael y wobr am yr ail dro gan iddo ennill nôl ym mis Ebrill. Yr enillwyr ar gyfer 2021 yw Sione Kalamfoni (Ionawr), Jac Morgan (Chwefror) a Steff Hughes (Mawrth).