Dwbl i Ken wrth i Gymru paratoi am Gamp Lawn

Rob Lloyd Newyddion

Llwyddodd capten y Scarlets Ken Owens i sgori dwy gais gyda Jake Ball ennill ei 50fed cap wrth i dîm Cymru symud cam yn agosach at Camp Lawn ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain.

Gan ddomineiddio’r gêm, gwnaeth ochr Wayne Pivac sgori saith o geisiau gyda sgôr o 48-7 yn erbyn yr Azzuri yn Stadio Olimpico.

Y bachwr Ken Owens ar gefn dau sgarmes symudol llwyddodd i ffeindio’r llinell am ei gais rhyngwladol cyntaf ym mhum mlynedd yn ystod y pencampwriaeth Chwe Gwlad wrth i dîm Cymru fwynhau yn yr heulwen Eidaleg.

Gyda Josh Adams a Taulupe Faletau hefyd yn croesi am geisiau yn ystod yr hanner cyntaf, a Geroge North, yr eilydd Callum Sheedy a’r asgellwr creadigol Louis Rees-Zammit yn ychwanegu at golled yr Eidal.

Roedd croeso mawr i Jake Ball oddi’r fainc hefyd wrth iddo gamu ymlaen i’r cae i wneud ei 50fed ymddangosiad i’w wlad.