Elias yn barod i arwain

Rob Lloyd Newyddion

Dywedodd Ryan Elias ei fod yn bwriadu i arwain o’r blaen wrth iddo gymryd dros rôl y capten ar gyfer gêm agoriadol Cwpan yr Enfys dydd Sul yn erbyn y Dreigiau (13:00; Premier Sports).

Bydd Elias yn capteinio’r Scarlets am y tro cyntaf, foment balch i’r bachwr o Gaerfyrddin sydd wedi datblygu trwy system gradd oedran y clwb.

Ond yn 26 oed, ychydig o brofiad capteinio sydd ganddo yn ystod ei hamser yn yr ysgol a rygbi iau.

Ond mae’r chwaraewr rhyngwladol yn ymfalchio wrth feddwl am arwain ei dîm allan yn Rodney Parade.

Felly beth fydd ei steil fel capten?

“Dwi ddim am fod yn ddyn sy’n siarad gormod,” cyfaddefodd. “Wnai geisio ymlacio i mewn i’r rôl, a peidio a phoeni gormod amdano a bihafio fel dwi arfer. Dyna’r ffordd i ennill parch y chwaraewyr, i beidio newid dy ffordd mewn unrhyw ffordd.

“Gobeithio, wnai arwain o’r blaen a dweud beth sydd angen ei ddweud ar yr amser cywir a chyfansoddi fy hun.

“I fod yn deg, mae Ken a Steff, sydd yn ddau gapten gwych, wedi siarad â mi wythnos yma a siarad am yr holl broses a sut mae’n gweithio a gofyn os dwi angen unrhyw tips neu beth bynnag. Mae’n brofiad newydd i mi a dwi’n edrych ymlaen yn fawr.”

Ac i ychwanegu at ei wythnos brysur, mae Elias wedi gorfod dysgu’r rheolau newydd sydd yn cael ei ddefnyddio yn y gystadleuaeth yma, yn nodedig her y capten.

“Fy nhro cyntaf fel capten ac mae’r rheolau’n newid!”. “Fydd hi’n ddiddorol.

“Mae’n bwysig i wneud yn siŵr fy mod i’n deall beth allai wneud. Rydym hefyd wedi disgwyl ar ‘the goal-line dropout’ i weld os allwn ddefnyddio hynny i’n mantais.

“Fe ganolbwyntiwn ar y pethau rydym yn hyderus ar, a gobeithio bydd popeth yn gweithio o’n plaid.”

Cyfaddefodd Elias ei bod yn teimlo’n rhwystredig yn ystod ymgyrch y Chwe Gwlad fel un o ddau chwaraewr wnaeth ddim ymddangos yn nhîm Wayne Pivac. Roedd cyfyngiadau Covid hefyd yn golygu nad oedd yn cael dychwelyd i chwarae i’r Scarlets.

Wedi bachu 17 o gapiau i’w wlad, roedd Elias yn athroniaethol am ei sefyllfa, “Rwy’n 26, dal yn ifanc yn fy marn i, ac mae gen i lawer o amser chwarae ar ôl,” ychwanegodd Elias, a wnaeth arwyddo cytundeb newydd i’r Scarlets yn ddiweddar.

“Dwi’n ceisio edrych tuag at y pethau positif pan dwi’n teimlo’n rhwystredig yn fy hun”

Mae gen i lawer mwy o flynyddoedd yn y gêm, gobeithio, mae’r gorau dal i ddod”

Ychwanegodd Glenn Delaney pan gafodd ei ofyn am y penderfyniad o wneud Elias yn gapten: “Sut fath o gapten fydd Ryan? Dwi’n credu bydd yn bwyllog, ac yn arweinydd brwd.

“Rwy’n siŵr fydd yn parhau gyda’r meddylfryd o ‘wnâi gario’r bel yn galed, a wnâi fod yn gorfforol a dyna fy steil.’

“Rwy’n siwr fydd yn tyfu i mewn i’r rôl trwy gydol y gêm.

“Wrth edrych ar y tîm a’u dyfodol dros y ddwy, tair blynedd nesaf, mae rhaid i ni greu tîm gydag arweinyddiaeth allan o chwaraewyr sydd yn eu hugeiniau.

“Mae llawer o waith wedi’i wneud ar hyn.

“Mae Ryan wedi chwarae rhan fawr yn hyn ac maen nawr yn gyfle iddo ddangos beth mae’n gallu gwneud ar y cae.”