Enwebiadau ar gyfer Tîm y Tymor PRO14 2017/18

Kieran Lewis Newyddion

Mae enwebiadau tîm y tymor wedi eu cadarnhau cyn y Noson Wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal nos yfory yn Glasgow.

Gyda’r noson wobrwyo yn cael ei chynnal cyn y tymor newydd cymrodd 75 aelod o’r wasg, gan gynnwys cyn chwaraewyr a hyfforddwyr, rhan y bleidlais. Am y tro cyntaf erioed mae’r enwebiadau wedi eu cyhoeddi cyn y noson.

Does dim syndod bod nifer o chwaraewyr y Scarlets a Leinster, y ddau dîm a gyrhaeddodd rownd derfynol cyntaf erioed Guinness PRO14, yn y restr fer. Roedd yn rhaid bod gan y chwaraewyr naw ymddangosiad er mwyn cael eu cynnwys.

Mae clybiau o’r pump gwlad sy’n rhan o’r gystadleuaeth wedi eu cynnwys gyda’r restr fer yn dangos tri chwaraewr ym mhob un safle.

Fe fydd y chwaraewyr sydd wedi eu cynnwys yn nhîm y Tymor yn cael eu henwi nos Lun yn Glasgow.

Enwebiadau Tîm y Tymor Guinness PRO14 2017/18

Prop penrhydd

Rob Evans (Scarlets)

Ox Nche (Toyota Cheetahs)

Cian Healy (Leinster Rugby)

Bachwr

Sean Cronin (Leinster Rugby)

Torsten van Jaarsveld (Toyota Cheetahs)

Stuart McInally (Caeredin)

Prop pentynn

Andrew Porter (Leinster Rugby)

Samson Lee (Scarlets)

Zander Fagerson (Glasgow Warriors)

Ail reng

Scott Fardy (Leinster Rugby)

Bobby de Wee (Southern Kings)

Devin Toner (Leinster Rugby)

Ail reng

Tadhg Beirne (Scarlets)

Alun Wyn Jones (Gweilch)

Reniel Hugo (Toyota Cheetahs)

Blaenasgellwr ochr dywyll

Aaron Shingler (Scarlets)

Josh Navidi (Gleision Caerdydd)

Oupa Mohoje (Toyota Cheetahs)

Blaenasgellwr Agored

James Davies (Scarlets)

Callum Gibbins (Glasgow Warriors)

Jordi Murphy (Leinster Rugby)

Wythwr

Jack Conan (Leinster Rugby)

Uzair Cassiem (Toyota Cheetahs)

Nick Williams (Gleision Caerdydd)

Mewnwr

John Cooney (Ulster Rugby)

Luke McGrath (Leinster Rugby)

Gareth Davies (Scarlets)

Maswr

Rhys Patchell (Scarlets)

Jarrod Evans (Cardiff Blues)

Ross Byrne (Leinster Rugby)

Asgell Chwith

Jacob Stockdale (Ulster Rugby)

Makazole Mapimpi (Toyota Cheetahs)

James Lowe (Leinster Rugby)

Cwnolwr

Hadleigh Parkes (Scarlets)

Rory Scannell (Munster Rugby)

Bundee Aki (Connacht Rugby)

Canolwr

Sammy Arnold (Munster Rugby)

Nick Grigg (Glasgow Warriors)

Willis Halaholo (Cardiff Blues)

Asgell dde

Jordan Larmour (Leinster Rugby)

Johnny McNicholl (Scarlets)

Andrew Conway (Munster Rugby)

Cefnwr

Blair Kinghorn (Edinburgh Rugby)

Charles Piutau (Ulster Rugby)

Matteo Minozzi (Zebre Rugby Club)