“Fe welwyd yr egni a’r angerdd roedd y gêm yn haeddu,” medd Pivac

Menna Isaac Newyddion

Roedd Wayne Pivac, prif hyfforddwr y Scarlets, yn falch iawn o weld gwelliant ym mherfformiad a dwysedd ei dîm wrth iddynt sicrhau 25ain buddugoliaeth ym Mharc y Scarlets yn y Guinness PRO14.

Roedd gêm ddarbi cyntaf y tymor, yn erbyn y Gweilch, yn gêm llawn angerdd o’r cychwyn cyntaf gyda’r Gweilch yn mynd ar y blaen cyn yr hanner.

Y Scarlets ddaeth i’r cae yn llawn tân ar gyfer yr ail hanner ac roedd cais gan Rhys Patchell a throsiad a gôl gosb gan Leigh Halfpenny yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Wrth ymateb i’r canlyniad dywedodd Pivac; “Roedden ni’n hapus gyda’r dechrau gaethon ni. Fe wnaethon ni amddiffyn popeth a ddaeth ato ni yn yr ugain munud agoriadol. Roedd gyda ni lot o egni ac fe wnaethon ni sgori o’r cyfle gaethon ni.

“Roedden ni’n siomedig gyda’r ail ugain munud yn yr hanner cyntaf ac fe wnaethon ni siarad am hynny yn ystod hanner amser. Doedd dim esgus am y gofod yn ein hamddiffyn a arweiniodd at eu ceisiau nhw.

“Roedden ni am ddechrau’r ail hanner fel wnaethon ni’r cyntaf. Fe welwyd yr egni a’r angerdd roedd y gêm yn haeddu.

“Ry’n ni’n hapus gyda’r canlyniad ac roedd yn welliant o gêm wythnos diwethaf. Roedd yn berfformiad gwell yn erbyn tîm llawer yn well. Mae’n ein rhoi ni mewn lle da ar gyfer wythnos nesaf.”

Wrth edrych ymlaen i rownd agoriadol Cwpan Pencampwyr Heineken dywedodd Pivac; “Mae’n ffocws ni’n troi yn awr at Ewrop. Ni wnaethon ni ddechrau’n dda iawn tymor diwethaf, roedd y gêm yma’n berffaith i ni baratoi ar gyfer her fawr penwythnos nesaf.”

.

Scarlets v Racing 92 ym Mharc y Scarlets, Sadwrn 13eg Hydref cic gyntaf 17:30.

Mae tocynnau ar gael nawr o tickets.scarlets.wales