Fformat Cwpan Her wedi’i gadarnhau am dymor nesaf

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Scarlets yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn hwyrach mis yma yn dilyn cadarnhad ar fformat Cwpan Her EPCR am dymor nesaf.

Y Scarlets bydd un o 20 o glybiau yn chwarae yn y gystadleuaeth 2022-23 a fydd yn gweld wyth cynrychiolydd o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig, chwe tîm o’r TOP 14, pum o’r Uwch Gynghrair, gan gynnwys y Cheetahs o Floemfontein sydd wedi derbyn gwahoddiad i gystadlu.

Bydd y clybiau yn cael eu rhannu i ddau pool o 10 – Pool A a Pool B – ac mewn fformat tebyg i Gwpan Pencampwyr Heineken, bydd y twrnamaint yn cael ei chwarae dros wyth penwythnos gyda pedwar rownd o gemau pool yn cychwyn ym mis Rhagfyr.

Y chwe tîm ar frig bob pool, gan gynnwys y timau yn y 9fed a’r 10fed safle o pool Cwpan Pencampwyr, bydd yn gymwys ar gyfer yr Rownd o 16, sydd yn cael ei ddilyn gan y rownd yr wyth olaf, rowndiau cynderfynol ac y rownd derfynol yn Stadiwm Aviva ar Fai 19 2023.

Ar Fehefin 28 mae’r tynnu enwau wedi’i drefnu ar gyfer Cwpan Her EPCR yn Stadiwm yr Aviva yn Nulyn gyda’r clybiau wedi’u rhannu i mewn i tair haen wedi’u seilio ar eiu safleoedd, ac ni fydd clybiau o’r un gynghrair yn chwarae ei gilydd yn ystod y rowndiau pool.

Mae’r Scarlets yn yr ail safle yn yr URC ac mi fyddyn nhw yn Haen 1 yn y broses tynnu enwau. Bydd y timau yn safle 3 a 4 o bob gynghrair, yn ogystal â timau yn safleoedd 5 a 6 yn y URC, yn Haen 2. Bydd y Dreigiau, Zebre Parma, Aviron Bayonnais, USAP, Rygbi Caerfaddon a’r Cheetah’s yn Haen 3.

Bydd y clybiau yn Haen 1 a 3 sydd wedi’u dynnu i mewn i’r un pool, ond nad ydyn nhw yn yr un gynghrair, yn chwarae ei gilydd mewn gemau cartref ac oddi cartref dros pedwar rownd o gemau pool.

Bydd y clybiau yn Haen 2 sydd wedi’u tynnu yn yr un pool, ond nad ydyn o’r un gynghrair, yn chwarae ei gilydd mewn gemau cartref ac oddi cartref yn ystod y rowndiau pool. Er mwyn cadw at yr egwyddor allweddol o ddim paru timau o’r un gynghrair, gall clybiau o Haen 2 o’r TOP 14 dim ond chwarae yn erbyn timau o’r URC, ac i dimau yn Haen 2 o’r Uwch Gynghrair fe allynt ond chwarae yn erbyn timau o’r URC.

Bydd manylion ac amseroedd pellach am y broses tynnu enwau ar gyfer Cwpan Pencampwyr Heineken ac am Gwpan Her EPCR yn cael ei rannu maes o law.

2022/23 EPCR CHALLENGE CUP QUALIFIERS

United Rugby Championship: 1 Glasgow Warriors, 2 Scarlets, 3 Connacht Rugby, 4 Lions, 5 Benetton Rugby, 6 Cardiff Rugby, 7 Dragons, 8 Zebre Parma

TOP 14: 1 RC Toulon, 2 Section Paloise, 3 Stade Français Paris, 4 CA Brive, 5 Aviron Bayonnais, 6 USAP 

Gallagher Premiership: 1 Wasps, 2 Bristol Bears, 3 Worcester Warriors, 4 Newcastle Falcons, 5 Bath Rugby

Gwahoddwyd: Cheetahs 

2022/23 Dyddiadau Pwysig

Rownd 1 – 9/10/11 Rhagfyr 2022

Rownd 2 – 16/17/18 Rhagfyr 2022

Rownd 3 – 13/14/15 Ionawr 2023

Rownd 4 – 20/21/22 Ionawr 2023

Rownd of 16 – 31 Mawrth/ 1/2 Ebrill 2023

Yr wyth olaf – 7/8/9 Ebrill 2023

Rowndiau Cynderfynol – 28/29/30 Ebrill 2023

Rownd Derfynol Cwpan Her EPCR– Dydd Gwener 19 Mai 2023; Aviva Stadium, Dulyn

Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Heineken– Dydd Sadwrn 20 Mai 2023; Aviva Stadium, Dulyn