Foxy i arwain Cymru gyda WillGriff i dderbyn ei gap cyntaf

Rob Lloyd Newyddion

Mae prop y Scarlets WillGriff John ar drywydd i ennill ei gap cyntaf i Gymru ar ôl cael ei enwi yng ngharfan 23 dyn i wynebu pencampwyr y byd y Springboks yng Nghaerdydd ar Ddydd Sadwrn.

Fe ymunodd o Sale Sharks yn yr haf, ac wedi’i enwi ymysg yr eilyddion – un o saith Scarlet wedi’u dewis gan prif hyfforddwr Wayne Pivac ar gyfer yr ail gêm yn ymgyrch yr Hydref.

Yn dilyn ei berfformiad cryf yn erbyn Seland Newydd mae Johnny McNicholl yn cadw ei le yng nghrys 15, wrth i Jonathan Davies cymryd lle Alun Wyn Jones fel capten.

Y bachwr Ryan Elias yw’r trydydd Scarlet wedi’i enwi yn y XV.

Yn ogystal â’r prop pen tynn John, mae Wyn Jones, mewnwr Gareth Davies a Liam Williams wedi’u dewis ar y fainc. Mae Williams wedi gwella o dderbyn llawriniaeth i dynnu ei appendix mas a fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ers y drydedd Prawf i’r Llewod yn erbyn De Affrica, nôl ym mis Awst.

“Mae De Affrica yn dod i Gaerdydd fel pencampwyr y byd yn cynnig her gwahanol i Seland Newydd. Mae gennym nhw blaenwyr mawr, ac yn fawr ar draws y parc, maent yn fygythiad sydd yn sialens gwahanol,” dywedodd Pivac.

“Mae’n Prawf fawr ac mae rhaid i ni gael y gorau mas ar y cae. Rydym yn edrych ymlaen i gael yr ochr yma mas ar y penwythnos a fydd hi’n ddiddorol i weld beth bydd y canlyniad,”

Tîm Cymru i wynbeu De Affrica, yn Stadiwn Principality, ar Sad 6ed Tachwedd 2021

15 Johnny McNicholl (Scarlets); 14 Louis Rees-Zammit (Gloucester Rugby), 13 Jonathan Davies (Scarlets, capt),  12 Nick Tompkins (Saracens); 11 Josh Adams (Cardiff Rugby); 10 Dan Biggar (Northampton Saints), 9 Tomos Williams (Cardiff Rugby); 1 Rhys Carré (Cardiff Rugby), 2 Ryan Elias (Scarlets), 3 Tomas Francis (Ospreys), 4 Will Rowlands (Dragons), 5 Adam Beard (Ospreys), 6 Ellis Jenkins (Cardiff Rugby), 7 Taine Basham (Dragons), 8 Aaron Wainwright (Dragons)Replacements;, 16 Bradley Roberts (Ulster), 17 Wyn Jones (Scarlets), 18 WillGriff John (Scarlets), 19 Ben Carter (Dragons), 20 Seb Davies (Cardiff Rugby). 21 Gareth Davies (Scarlets), 22 Gareth Anscombe (Ospreys), 23 Liam Williams (Scarlets)