Galwyd Johnny McNicholl i garfan Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Mae Cymru wedi galw cefnwr y Scarlets, Johnny McNicholl, i’w carfan ar gyfer Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Wedi’i gapio bedair gwaith gan Gymru, gwnaeth Johnny ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad Guinness 2020 ac mae wedi dychwelyd o anaf i’w bigwrn i fod ar gael i’w ddewis.

Roedd yn chwaraewr y gêm ym muddugoliaeth Guinness PRO14 y penwythnos diwethaf dros Connacht yn Galway, gan chwarae rhan allweddol ym mhob un o dri chais y Scarlets.

Mae cefnwr Gleision Caerdydd, James Botham, sydd eisoes wedi hyfforddi gyda’r garfan, hefyd wedi cael ei alw i fyny – ei alwad hŷn gyntaf.