Gareth Davies yn cyrraedd ei 200fed gem i’r Scarlets

Rob Lloyd Newyddion

Cyfaddefodd Gareth fydd hi’n deimlad anghredadwy iddo ar ddydd Sadwrn pan fydd y mewnwr yn gwneud ei 200fed ymddangosiad i’r clwb.

Bydd y chwaraewr rhyngwladol yn ymuno a chriw bach o chwaraewyr sydd wedi cyrraedd y garreg filltir yma i’r clwb, wrth iddo gamu ar gae’r Rec dydd Sadwrn yn erbyn Caerfaddon – 11 mlynedd ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb.

“Byddai’n teimlo balchder mawr. Dwi wedi bod yn rhan o’r clwb ers i mi fod yn 16 neu 17, a dwi newydd droi’n 30, mae’n teimlo fel amser maeth yn ôl!

“Dwi’n cofio chwarae yng Ngholeg Sir Gar, a chael y cyfle i ymuno ac Academi’r Scarlets; roedd hynny yn gyrhaeddiad enfawr i mi i fod yn rhan o’r grŵp yna. Dechreuais ymarfer gyda’r tîm cyntaf ar ôl hynny, ac arwyddo fy nghytundeb datblygiad ac wedyn fy nghytundebau proffesiynol ar ôl hynny.

“Pryd hynny, rwy’n cofio edmygu’r chwaraewyr hŷn yn y garfan fel Stephen Jones, Vernon Cooper, Deacon Manu, Johnny Edwards, a nawr mae’r bois ifanc yn edrych arna’i yn yr un ffordd, sy’n deimlad rhyfedd iawn.”

Gyda mwy na 50 cais iddo’i enw, mae’r crwt o Gastell Newydd Emlyn yn cipio sawl uchafbwynt yn ystod ei yrfa, yn cynnwys ei ymdrechion anhygoel yn ystod y buddugoliaethau yn erbyn Leinster a Munster ar y daith i ennill teitl y Guinness PRO12.

Ymysg ei holl uchafbwyntiau yn y crys Scarlets, mae’r fuddugoliaeth Ewropeaidd yn 2018 yn y Rec – sef lleoliad gem yfory – yn sefyll mas iddo.

“Yn sicr un o fy hoff atgofion yn y crys Scarlets” dywedodd Gareth. “Gweld Tadhg yn sgori cais a rhedeg hyd y cae ar ôl cic Patch, a mwynheais dorri trwy a helpu Parksey fynd o dan y pyst hefyd.”

Gan i nifer o fois Cymru, yn cynnwys Gareth, dychwelyd nôl i’r Scarlets wythnos yma, mae’r gwaith paratoi wedi bod yn llym wrth gofio mae ond dydd Iau roedd gweddill y garfan nol yn ymarfer yn dilyn eu cyfnod hunan ynysu.

“Mae’r niferoedd staff wedi bod ychydig yn isel wythnos yma, ond daeth grŵp da o fois nol o garfan Cymru a rhai wedi llwyddo osgoi gorfod hunan ynysu felly rydym wedi cael sawl sesiwn ymarfer da ac mae’r bois yn edrych ymlaen at y penwythnos” mynegwyd Davies.

“Mae Caerfaddon wedi bod yn un o’r clybiau gorau yn y gynghrair dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n amlwg yr her sydd yn ein hwynebu ni, ond rydym yn edrych ymlaen at y sialens.”