Bydd y Scarlets yn chwarae ei gem nos Lun cyntaf yn dilyn cyhoeddiad dyddiadau’r Guinness PRO14 ar gyfer rowndiau 12-16.
Bydd y Scarlets yn gorffen y tymor wrth chwarae Connacht ar Dydd Llun, Mawrth 22 ym Mharc y Scarlets.
Mae’r pedwar gêm fydd ar ôl yn erbyn ochrau yng nghynhadledd B.
Bydd y Scarlets yn croesawu Benetton i Barc y Scarlets ar ddydd Sadwrn, Chwefror 20. Yn dilyn hynny fyddynt yn teithio i Gaeredin yr wythnos ar ol i chwarae yn y brifddinas.
Gyda gêm yn erbyn Gleision Caerdydd wedi cael ei aildrefnu ar gyfer penwythnos diwethaf, ni fydd y Scarlets yn chwarae ar benwythnos y 5-7 o Fawrth, ond fydd y tîm yn teithio i Limerick i wynebu Munster ar Fawrth 12.
Bydd y taith i Connacht yn cwblhau’r ymgyrch PRO14, sydd wedi’i leihau i 16 o gemau er mwyn dechrau’r Cwpan Enfys yn hwyrach yn y tymor.
Bydd y timau ar frig pob cynhadledd yn cystadlu yn rownd derfynol y Guinness PRO14.
Dyddiadau
Rd 12 Scarlets v Benetton (Sad, Chwe 20; 15:00)
Rd 13 Caeredin v Scarlets (Sad, Chwe 27; 12:00)
Rd 15 Munster v Scarlets (Gwe, Maw 12; 20:00)
Rd 16 Scarlets v Connacht (Llun, Maw 22; 20:00)