Glen Delaney yn rhagolygu Munster v Scarlets

Rob LloydNewyddion

Siaradodd Glenn Delaney â’r wasg wythnos hon o flaen gêm rown 15 o’r Guinness PRO14 nos Wener yn erbyn Munster yn Thomond Park

Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud …

Glenn, beth wyt ti’n i feddwl o’r her fydd nos Wener yn Thomond Park?

GD: “Aethom yna llynedd am y tro diwethaf cyn i bopeth cau lawr am gyfnod. Fe fydd hi’n her mawr i ni, fe chwaraeom ni yn eu herbyn yn gêm cyntaf y tymor a heb llwyddo i gynnal y safon am y 15 munud diwethaf ar ôl rhoi ymdrech da i mewn.

“Maen nhw wedi esblygu, maen nhw yn y rownd derfynol yn barod felly byddwn yn edrych ymlaen at hynny, ond rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i gadw adeiladu ein momentwm ac i gadw ein safon o chwarae.

“Byddwn yn mynd yna gan wybod o’r her o chwarae yn Thomond Park. Fe lwyddom i ennill y gêm oddi cartref y tro diwethaf yn erbyn Caeredin ac fe fyddwn yn disgwyl i ddarganfod yr egni yna eto yn erbyn Munster.

“Mae Munster yn dîm galluog iawn, ac mae ganddyn nhw gêm cicio tactegol ond fydd rhaid i ni gadw ein ffocws i ffwrdd o hynny. Maent yn dîm sydd yn anelu at gwblhau yn fuddugol, ac yn uned cryf gyda cludwyr da megis Gavin Coombes sydd wedi chwarae’n anhygoel trwy gydol y flwyddyn, a Jack O’Donoghue hefyd. Mae yna sawl ddyn bydd angen cadw llygaid barcud arnyn nhw.

“Mae’n bwysig i ni gymryd cam ymlaen, mae dal angen pwyntiau i gadarnhau Ewrop, nid yw hynny wedi newid ers rhai wythnosau yn ôl. Ein amcan yw i gadarnhau ein safle yng Nghwpan Pencampwyr blwyddyn neaf.”

MANYLION Y GÊM

Munster v Scarlets (Dydd Gwener, Mawrth 12, 8yh gc) 

Thomond Park, Limerick

Yn fyw ar TG4, eir Sport 2, Premier Sports 2, S4C

Dyfarnwr: Seán Gallagher (IRFU, 24ain gêm cystadleuol)

Dyfarnwyr Cynorthwyol: Robert O’Sullivan, Peter Martin (y ddau: IRFU)

Dyfarnwr Teledu: Brian MacNeice (IRFU)

BENBEN

Chwaraeir 33, Munster wedi ennill 19, y Scarlets wedi ennill 12 gyda dwy gêm yn gyfartal

A OEDDECH CHI’N GWYBOD?

  • Mae Munster wedi ennill eu pedair gêm PRO14 diwethaf ers chwarae Leinster ym mis Ionawr
  • Nad yw Munster wedi colli gêm yn erbyn un o rhanbarthiau Cymru ers i’r Scarlets eu maeddu nhw ym Mharc y Scarlets ym mis Mawrth 2019
  • Cyrrhaeddodd Munster y rownd derfynol o’r Guinness PRO14 penwythnos diwethaf
  • Mae’r Scarlets yn anelu at eu trydydd buddugoliaeth yn olynol ar ôl chwarae Benetton a Chaeredin sydd wedi galluogi’r posibilrwydd o fod yn gymwys i Gwpan Pencampwyr
  • Y tro diwethaf i’r ddau gwrdd, collodd y Scarlets mewn gêm agos gyda sgôr o 30-27