Glenn yn ennill pleidlais hyfforddwr PRO14 y mis!

Rob LloydNewyddion

Mae prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney wedi ennill pleidlais Hyfforddwr PRO14 y mis am fis Chwefror, cyflwynwyd gan Lock Lomond Whiskies.

Cafodd Delaney ei enwebu ynghyd hyfforddwr eraill gan gynnwys Andy Friend (Connacht Rugby), Dan MacFarland (Ulster Rugby) a Johann van Graan (Munster Rugby) a chafodd eu cyhoeddi ar podlediad Under the Sticks wythnos diwethaf.

Roedd y bleidlais wedi’i gyfuno o bleidleisiau cefnogwyr ar ap swyddogol y PRO14 ac ar ei gwefan www.pro14.rugby wrth i gyn-enillydd y teitl, Sean Holley, a cholofnydd rygbi Paul Williams hefyd gyfrannu trwy system pleidleisio.

Mae gwobr hyfforddwr y mis yn talu teyrnged i hyfforddwyr gyda thimoedd sydd yn ymgorffi ysbryd rygbi gan ddangos rhinweddau megis angerdd, ysbrydoledig a gwaith tîm, rhinweddau a rhannwyd gyda Loch Lomond Whiskies.

FIDEO: GWYLIWCH CYFWELIAD LLAWN GLENN DELANEY AR UNDER THE STICKS YMA

Bydd Delaney, sydd wedi arwain ei dîm i’r tri uchaf yng nghynhadledd B yn y Guinness PRO14, yn derbyn potel o Loch Lomond Single Malt deunaw oed gydag ond dwy gêm ar ôl i’w dîm i chwarae efallai fydd y Scarlets yn gallu neidio i’r ail safle yn y tabl i faeddu Connacht.

Dywedodd Glenn: “Diolch i bawb a wnaeth cymryd yr amser i bleidleisio, ond mae gwobrwyau fel hyn yn gydnabyddiaeth i’r holl waith sydd wedi cael ei roi mewn gan bawb dros y tymor diwethaf, mae’n gydnabyddiaeth i bawb nid unigolion.

“Roedd y fuddugoliaeth yng Nghaeredin yn enwedig wedi dangos y cymeriad sydd gan y grŵp yma. Roedd yn fuddugoliaeth holl bwysig i ni o ran Cwpan Pencampwyr, ond rydym yn ymwybodol o’r gwaith sydd angen yn y ddau rownd olaf, gan ddechrau yn Limerick ar nos Wener.”

Ym mis Chwefror, trechodd y Scarlets tîm Benetton mewn buddugoliaeth pwynt bonws gan gipio’r fuddugoliaeth unwaith yn rhagor yn erbyn Caeredin gyda sgôr o 27-25 yn y brif ddinas. Mae tîm Delaney yn nawr yn hyderus i sicrhau lle yng Nghwpan y Pencampwyr tymor nesaf gan ymestyn ei mantais dros Gleision Caerdydd a Chaeredin.

Bydd y Scarlets yn disgwyl i orffen ei ymgyrch gyda gêm heriol oddi cartref yn erbyn Munster yn rownd 15 cyn wynebu Connacht ar nos Lun yn rownd 16 gan orffen yr ymgyrch ar dir cartref.