Grabham yn cael ei orfodi i ymddeol

Kieran Lewis Newyddion

Mae’r Scarlets yn gallu cadarnhau bod Tom Grabham wedi ei orfodi i ymddeol o rygbi proffesiynol oherwydd anaf.

Ymunodd yr asgellwr 26 mlwydd oed â’r Scarlets yn haf 2017 o’r Gweilch.

Datblygodd y chwaraewyr talentog ac ymryddawn trwy glwb Benybont a’r Gweilch cyn symud i’r gorllewin gan ymuno â’r Scarlets ar gyfer tymor 2017-18.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r Scarlets mewn gêm gyfeillgar ym mis Awst 2017 lle sgoriodd gais. Chwaraeodd ei unig gêm gystadleuol i’r rhanbarth yn erbyn Zebre ym mis Medi 2017.

Cafodd Grabham lawdriniaeth ar ei benglin yn sydyn wedi hynny ac nid yw’r anaf wedi gallu gwella i lefel lle y mae’n gallu ymateb i anghenion rygbi proffesiynol yn ddyddiol.

Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Gyffredinol y Scarlets; “Mae Tom wedi cael tymor anodd ers ymuno â ni yma ym Mharc y Scarlets ac wedi gorfod gwylio o’r ystlys ac wedi gorfod do di delerau â’r ffaith ei fod yn gorfod rhoi’r gorau i’w yrfa. Dymunwn pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd Grabham; “Gyda siom yr wyf yn gorfod cadarnhau heddiw fy mod yn gorfod ymddeol o rygbi.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm meddygol a’r staff hyfforddi yn y Scarlets am y gefnogaeth dros yr wyth mis diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn ceisio dod i delerau gyda’r realiti na fyddaf yn chwarae rygbi mwyach.

“Mae’n siomedig nad wyf wedi gallu gwneud argraff gyda’r Scarlets ond rwy’n ddiolchgar iawn am fy nghyfnod yma.”