Gwybodaeth i brynwyr tocynnau gêm

Rob Lloyd Newyddion

Rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i rygbi y mis nesaf, ond yn anffodus mae’n debyg y bydd ein gemau Guinness PRO14 wedi’u hail-drefnu ym mis Awst yn cael eu chwarae heb gefnogwyr ym Mharc y Scarlets.

Cyn i ni fynd i mewn i gyfnod cloi ar gyfer Covid-19, roedd gennym bedair gêm gartref ar ôl ar gyfer ymgyrch 2019-20 – Dreigiau, Gleision Caerdydd (Dydd y Farn), Leinster a Munster – a bydd cefnogwyr sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer y gemau hynny yn derbyn e-bost ar Ddydd Mercher yn manylu ar eu hopsiynau.

Os gwnaethoch brynu tocynnau Dydd y Farn yn uniongyrchol gennym ni, byddwch yn derbyn e-bost hefyd. Fodd bynnag, os ydych wedi prynu tocynnau Dydd y Farn yn uniongyrchol gan yr WRU, dylech fod wedi derbyn e-bost eisoes gan yr WRU.

Fel yr e-bost blaenorol a gyhoeddwyd gennym i ddeiliaid tocynnau tymor, bydd gan brynwyr tocynnau gêm yr opsiwn i roi eu had-daliad yn ôl i’r clwb, gohirio’r arian fel credyd i brynu tocynnau yn y dyfodol neu dderbyn ad-daliad.

Diolch yn fawr eto am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r Parc pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Cwestiynau Cyffredin