Cymorth Tocynnau


deiliaid tocynnau tymor

Gobeithio eich bod chi a'ch teulu yn cadw'n ddiogel ac yn iach, gan ddiolch unwaith eto am eich cefnogaeth trwy brynu tocyn tymor am dymor 2020-21. Rydym angen eich cymorth a chefnogaeth yn fwy nag erioed wrth i edrych ymlaen at eich croesawu nôl i’r Parc.

Gyda chefnogwyr yn methu mynychu unrhyw gemau'r tymor yma, mae gwerth eich tocyn tymor personol wedi'i nodi tu fewn i'r e-bost neu llythyr rydych wedi derbyn wrthom. Mae pecynnau ar gyfer 2021-22 ar fin cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, felly rydym yn cynnig opsiynau am beth allwch wneud gyda’r swm yma.

Dyma eich opsiynau

Credyd

Rhoi’r swm cyfan tuag at aelodaeth tymor ar gyfer tymor 2021-22. Mae prisiau’r tocynnau wedi’u rhewi ar yr un pris a’r tymor 2020-21. 

Defnyddio canran o’r credyd tuag at eich aelodaeth tymor ar gyfer 2020-21 ac/neu talebau bwyd a diod ym Mharc y Scarlets. Opsiynau’r canrannau yw 25%, 50% a 75% neu 100% credyd.

* Mae'r swm credyd yn amodol ar gadarnhad terfynol o dorfeydd ar gyfer gêm Caeredin ar Fehefin 13. Os caniateir i gefnogwyr i ddod i gêm Caeredin, bydd gan ddeiliaid tocynnau tymor yr opsiwn cyntaf am docyn. Os manteisiwch ar yr opsiwn hwn, tynnir swm pro-rata o'ch gwerth credyd terfynol ar gyfer y tymor nesaf.

Rhodd

Bydd eich rhodd yn cael ei ddefnyddio gan y Scarlets ar gyfer cefnogaeth ariannol yn ystod y cyfnod hwn wrth i ni barhau i wynebu’r heriau ym myd chwaraeon proffesiynol o ganlyniad i Covid-19. Bydd y rhodd yn ein helpu i fuddsoddi i mewn i’r busnes, stadiwm, Academi a Sefydliad Cymunedol y Scarlets. 

Rhannu credyd/rhodd

Fe allwch roi canran o’ch aelodaeth tuag at gredyd a'r gweddill fel rhodd os ydych yn dymuno. Dyma eich opsiynau:

  • 25% credyd, 75% rhodd
  • 50% credyd, 50% rhodd
  • 75% credyd, 25% rhodd

Cymerwch eich amser i benderfynu beth hoffwch wneud, a pan ydych yn barod, ewch i’r ddolen isod i gyflwyno sut hoffwch ddyrannu eich aelodaeth.

CLICIWCH YMA

Unwaith eto, diolch enfawr am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Bydd unrhyw arian a roddwch yn ôl i'r clwb yn gwneud gwahaniaeth, ond rydym hefyd yn deall yr heriau y mae pawb yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac mae eich cefnogaeth i'r Scarlets yn cael ei werthfawrogi'n fawr pa bynnag benderfyniad a wnewch.

Rydym i gyd yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i'r Parc pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Diolch

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Rydym wedi paratoi atebion i gwestiynau cyffredinol.