Hannah Jones a Jaz Joyce wedi’u henwi yng ngharfan ymarfer saith bob ochr Prydain

Rob Lloyd Newyddion

Chwaraewyr rhyngwladol Cymru Hannah Jones a Jasmine Joyce, y ddwy yn chwarae i dîm Fenywod Scarlets, wedi’u henwi yng Ngharfan hyfforddi saith bob ochr Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Tokyo.

Mae Jaz a Hannah wedi serennu i’w clybiau yng nghynrair Allianz Premier 15 Lloegr ac wedi’u henwi yn y garfan o 19.

Mae carfan y dynion yn cynnwys cyn-chwaraewyr Scarlets Morgan Williams a Luke Treharne, gyda chwaraewr y Gweilch Luke Morgan.

Bydd y ddau dîm wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Loughborough gyda’r hyfforddi i ddechrau ym mis Mawrth o flaen ymarferion cyn-gemau Olympaidd a fydd yn arwain at fis Gorffennaf a’r Gyfres y Byd HSBC. Manylion i ddod maes o law.