Hardy i ddechrau yn erbyn yr Ariannin

Rob Lloyd Newyddion

Mewnwr y Scarlets Kieran Hardy sydd wedi’i enwi fel un o’r tri newid i XV Cymru i ddechrau yn erbyn yr Ariannin yn Stadiwm y Principality ar ddydd Sadwrn (1yp).

Mae Hardy yn cymryd safle Tomos Williams fel mewnwr, gyda Jonathan Davies yn arwain fel canolwr unwaith eto, wrth i Ryan Elias gael ei enwi ar y fainc.

Mae Pivac wedi enwi’r un pac a chwaraeodd yn erbyn Canada penwythnos diwethaf.

“Yr Ariannin yw’r gwrthwynebwyr perffaith i ni ar gyfer y penwythnos ac y gwmws prawf rydym am i’r grŵp yma o chwaraewyr i herio,” dywedodd Pivac.

“Fe gawn ein herio gyda’r blaenwyr a fydd yn gêm gorfforol iawn, rhywbeth nad yw llawer o’r chwaraewyr wedi profi o’r blaen ond fydd hynny’n ateb llawer o gwestiynau i ni wrth i ni adeiladu tuag at Gwpan y Byd 2023.

“Mae’n wych i gael chwarae yng Nghaerdydd eto ac rydym am chwarae steil o rygbi sy’n gyffroes, steil a fydd yn cael y cefnogwyr ar eu traed. Mae’n disgwyl i fod yn ddigwyddiad da.

TÎM CYMRU I WYNEBU’R ARIANNIN AR DDYDD SADWRN, GORFFENNAF 10 (13.00)

15 Hallam Amos (Cardiff Rugby); 14 Jonah Holmes (Dragons), 13 Uilisi Halaholo (Cardiff Rugby, 12 Jonathan Davies (CAPT) (Scarlets), 11 Owen Lane (Cardiff Rugby); 10 Callum Sheedy (Bristol Bears),  9 Kieran Hardy (Scarlets);  1 Nicky Smith (Ospreys), 2 Elliot Dee (Dragons), 3 Dillon Lewis (Cardiff Rugby),  4 Ben Carter (Dragons),  5 Will Rowlands (Dragons),  6 Ross Moriarty (Dragons),  7 James Botham (Cardiff Rugby),  8 Aaron Wainwright (Dragons)
Replacements: 16 Ryan Elias (Scarlets),  17 Gareth Thomas (Ospreys), 18 Leon Brown (Dragons),  19 Josh Turnbull (Cardiff Rugby), 20 Taine Basham (Dragons), 21 Tomos Williams (Cardiff Rugby), 22 Jarrod Evans (Cardiff Rugby), 23 Nick Tompkins (Saracens).