Hughes i arwain y Scarlets yn erbyn y Kings

Menna Isaac Newyddion

Fe fydd y Scarlets yn wynebu’r Southern Kings yn Stadiwm Madibaz ar nos Wener 26ain Hydref wrth i’r sylw droi’n ôl at y Guinness PRO14 ar ôl cymal agoriadol yr ymgyrch Ewropeaidd.

Gyda deuddeg chwaraewr ar ddyletswydd rhyngwladol mae Wayne Pivac wedi enwi tîm ar ei newydd-wedd ar gyfer y gêm yn erbyn y tîm o Dde Affrica.

Fe fydd y canolwr 24 mlwydd oed Steff Hughes yn arwain y Scarlets gan obeithio sicrhau buddugoliaeth i gadw’r pwysau ar Leinster sydd ar frig Adran B.

Mae Sam Hidalgo-Clyne a Dan Jones yn partneri yn yr hanneri, Paul Asquith yn ymuno â’r capten Hughes yn y canol tra bod Ioan Nicholas, Johnny McNicholl a Clayton Blommetjies yn cydweithio yn y tri ôl.

Mae’r prop pentynn profiadol Werner Kruger, sydd wedi cynrychioli De Affrica ar y llwyfan rhyngwladol, yn dechrau ochr yn ochr â Marc Jones a Phil Price yn y reng flaen.

Daw Steve Cummins yn ôl o anaf i ddechrau yn yr ail reng gyda David Bulbring tra bod Will Boyde, Josh Macleod ac Uzair Cassiem yn cryfhau’r pac yn y reng ôl.

Tîm y Scarlets i wynebu’r Southern Kings am 18:00 (amser DU) ar nos Wener 26ain Hydref;

15 Clayton Blommetjies, 14 Johnny McNicholl, 13 Paul Asquith, 12 Steff Hughes ©, 11 Ioan Nicholas, 10 Dan Jones, 9 Sam Hidalgo-Clyne, 1 Phil Price, 2 Marc Jones, 3 Werner Kruger, 4 Steve Cummins, 5 David Bulbring, 6 Will Boyde, 7 Josh Macleod, 8 Uzair Cassiem

Eilyddion; 16 Dafydd Hughes, 17 Dylan Evans, 18 Simon Gardiner, 19 Tom Price, 20 Josh Helps, 21 Kieran Hardy, 22 Morgan Williams, 23 Ed Kennedy

Roedd disgwyl i Blade Thomson ymuno gyda’r garfan yn Ne Affrica ar ôl gwersyll yr Alban ond ni deithiodd ar ôl genedigaeth ei ail blentyn.