Jake yn ffarwelio’r Scarlets wrth iddo ddychwelyd i Awstralia

Rob Lloyd Newyddion

Bydd Jake Ball yn hedfan nôl i Awstralia ar y penwythnos wrth iddo ffarwelio teulu’r Scarlets.

Chwaraeodd ei gêm olaf i’r Scarlets gan orffen naw mlynedd fythgofiadwy yng Ngorllewin Cymru.

Gyda 50 o gapiau i’w enw, mae Jake wedi chwarae 133 o weithiau i’r Scarlets ac roedd yn aelod o’r garfan enillodd teitl y Guinness PRO12 yn 2017 a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol o Gwpan Pencampwyr Ewrop wythnos yn ddiweddarach.

Cafodd Jake sgwrs gyda’r cyn asgellwr Scarlet a rheolwr tîm Garan Evans i sôn am yr heriau wynebodd pan gyrhaeddodd Llanelli am y tro cyntaf, ei uchafbwyntiau, sut mae am i’r cefnogwyr ei gofio a faint mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’w deulu a’i fabi newydd Max.