Joe Roberts i ymuno â Ampthill ar fenthyg

Rob Lloyd Newyddion

Canolwr y Scarlets Joe Roberts i ymuno â chlwb ym Mhencampwriaeth Saesneg Ampthill ar fenthyg am ddau fis.

Cafodd Roberts ei gapio i Gymru dan 18 a dan 20 ac roedd yn gapten ar ei wlad dan 19 yn ystod gêm yn erbyn Ysgolion Uwchradd Siapan. Collodd yr ymgyrch 2019-20 oherwydd anaf difrifol i’w ben-glin, ond fe ddychwelodd i ymarferion ym mis Medi a chafodd ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets oddi’r fainc yn ystod gêm ddatblygedig yn erbyn y Dreigiau yn gynt y tymor hwn.

Dywedodd y chwaraewr 20 oed: “Dw i’n edrych ymlaen at y symud. Ers dychwelyd o anaf dw i wedi bod wrth fy modd yn ymarfer gyda’r garfan hŷn, gan ddatblygu fy sgiliau wrth ochr chwaraewyr rhyngwladol. Mae hyn yn nawr yn gyfle i mi gael profiad o chwarae rygbi yn y bencampwriaeth. Mae Ampthill yn glwb cystadleuol ac rwy’n edrych ymlaen at ymuno a’r garfan cyn gêm fawr yn erbyn Doncaster wythnos yma.”

Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets Glenn Delaney: “Mae nifer o’n chwaraewyr talentog ifanc wedi cael cyfle i chwarae yn y PRO14 y tymor yma, ond mae eraill heb gael y cyfle hynny a heb gemau tîm-A ac yn yr uwchgynghrair oherwydd Covid-19, nad ydynt yn cael cyfleoedd i chwarae.

“Mae’r Pencampwriaeth Saenseg yn amgylchedd gystadleuol iawn. Mae Joe yn chwaraewr talentog iawn ac rydym yn edyrch ymlaen i weld ei berfformiad gyda Ampthill.”

Mae Ampthill yn cael eu hyfforddi gan gyn-faswr Cymru Paul Turner, a ddywedodd “Hoffwn ddiolch y Scarlets am gytuno i’r benthyciad yma ac rydym yn hapus iawn i groesawu Joe am y cyfnod yma. Mae Joe yn dalent fawr a fydd yn ychwanegu’n fawr at ein carfan.”