Johnny Williams a Kieran Hardy i ddychwelyd i Gymru yn erbyn y Boks

Rob LloydNewyddion

Deuawd y Scarlets Johnny Williams a Kieran Hardy wedi’u henwi yng ngharfan Cymru i wynebu pencampwyr presennol y byd De Affrica yn y gêm olaf o Gyfres yr Haf yng Nghaerdydd ar Ddydd Sadwrn (15:15).

Y canolwr Williams sydd wedi gwella o anaf hamstring i ennill ei 17eg cap yn Stadiwm y Principality, wrth i Hardy wneud ei ymddangosiad cyntaf o’r gyfres fel mewnwr.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Mae’r paratoadau wedi mynd yn dda. Ry’n ni’n hapus iawn gyda’r garfan gyfan.

“Yn y ddwy gêm gyntaf – fe brofon ni ein bod yn gallu bod yn hynod gorfforol ac yn gallu amddiffyn yn dda hefyd. Fe gefais fy mhlesio’n fawr gan hynny. Ry’n ni wedi dysgu cryn dipyn o’r ail gêm honno yn erbyn Lloegr a gobeithio y byddwn yn rhoi hynny ar waith yn erbyn De Affrica. Mae hwn yn gyfle arall i’r grŵp yma o 23 o chwaraewr i geisio hawlio’u lle yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd De Affrica’n hyderus a chorfforol. Dydyn nhw ddim yn gwneud llawer o gamgymeriadau. Maen nhw’n dîm profiadol iawn – ond mae gennym gyfle gwych i ddangos ein doniau o flaen ein torf ein hunain ac adeiladu ar nifer o’r agweddau da o’n chwarae yn y ddwy gêm yn erbyn Lloegr. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n chwarae am 80 munud ac yn gywir am 80 munud.”

Tîm XV Dynion Cymru v De Affrica yn Stadiwm y Principality yng Nghyfres yr Haf 2023. Dydd Sadwrn 19 Awst, CG 3:15yp. Yn fyw ar Prime Video yn Saesneg a Chymraeg.

15. Liam Williams (Kubota Spears – 85 caps); 14. Alex Cuthbert (Ospreys / Gweilch – 57 caps), 13. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 3 caps), 12. Johnny Williams (Scarlets – 5 caps), 11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 8 caps); 10. Dan Biggar (Toulon – 109 caps), 9. Kieran Hardy (Scarlets – 17 caps); 1. Corey Domachowski ( Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap), 2. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 42 caps), 3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap), 4. Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 10 caps), 5. Will Rowlands (Dragons / Dreigiau – 24 caps), 6. Dan Lydiate (Dragons / Dreigiau – 70 caps), 7. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 10 caps) captain / capten, 8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 38 caps).

Eilyddion

16. Sam Parry (Ospreys / Gweilch – 6 caps), 17. Nicky Smith (Ospreys / Gweilch – 43 caps), 18. Henry Thomas (Montpellier – 1 cap), 19. Teddy Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – uncapped / heb gap), 20. Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 12 caps), 21. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 47 caps), 22. Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – 1 cap), 23. Cai Evans (Dragons / Dreigiau – uncapped / heb gap).