Jonathan Davies i arwain y Scarlets i mewn i dymor 22/23

Rob Lloyd Featured

Jonathan Davies fydd yn gapten am dymor 2022-23 ac yn arwain yr ochr ar gyfer ein gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn y Gweilch ym Mharc y Scarlets (17:15; Premier Sports).

Davies, sydd yn cychwyn ar ei 14eg tymor gyda’r clwb, fydd yn gapten ar y tîm o 23 sy’n cynnwys 14 chwaraewr rhyngwladol.

Johnny McNicholl sy’n dechrau yn safle’r cefnwr, gyda Tom Rogers a Ryan Conbeer yn darparu’r cyflymder ar yr asgelloedd.

Davies sy’n paru gyda Johnny Williams yng nghanol cae, wrth i Sam Costelow a Gareth Davies dechrau fel ein haneri am y gêm gyntaf o’r tymor.

Steff Thomas sy’n gwisgo crys rhif 1, gyda Ryan Elias yn dychwelyd i safle’r bachwr a Javan Sebastian fel y prop pen tynn.

Sam Lousi sy’n ymuno â’i ffrind da Vaea Fifita yn yr ail reng sy’n paratoi am ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf.

Blade Thomson, Tomás Lezana a Sione Kalamafoni sy’n cwblhau’r rheng ôl.

Prop y Llewod Wyn Jones, Daf Hughes a Harri O’Connor sydd ar y fainc i’r rheng flaen, tra bod Tom Price a Josh Macleod yn cwblhau’r eilyddion i’r blaenwyr. Kieran Hardy, Dan Jones a Corey Baldwin sydd ar y fainc i’r olwyr.

Ymysg rheiny sydd ddim ar gael oherwydd anaf mae Aaron Shingler, Scott Williams a Steff Evans, wrth i Ken Owens a Leigh Halfpenny parhau i wella o’u hanafiadau hir dymor.

Dywedodd y prif hyfforddwr Dwayne Peel: “rwy’n siŵr fydd pob clwb yn dweud rhywbeth tebyg, ond i ni wedi gweithio’n galed dros yr haf ac rwy’n gyfforddus gyda’n sefyllfa yn mynd i mewn i’r gêm. Y tro diwethaf i ni chwarae yma (yn y URC) yn erbyn y Stormwyr, roedd yna dorf dda yma, roedd hi’n gêm gyffrous ac mae angen mwy o hynny. Mae gennym ddyletswydd i roi sioe ymlaen. Os fydd llawer o gefnogwyr yma i gefnogi’r bois, mi fydd hi’n wych.”

Scarlets v Gweilch (Dydd Sadwrn, Medi 17; Parc y Scarlets; 17:15 Premier Sports)

15 Johnny McNicholl; 14 Tom Rogers,13 Jonathan Davies (capt), 12 Johnny Williams, 11 Ryan Conbeer; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Steff Thomas, 2 Ryan Elias, 3 Javan Sebastian, 4 Vaea Fifita, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Tomás Lezana, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Daf Hughes, 17 Wyn Jones, 18 Harri O’Connor, 19 Tom Price, 20 Josh Macleod, 21 Kieran Hardy, 22 Dan Jones, 23 Corey Baldwin.

Ddim ar gael

Ken Owens, Leigh Halfpenny, Aaron Shingler, Scott Williams, Steff Evans, Dan Davis, Phil Price, Lewis Rawlins, Joe Roberts, Jac Price, Shaun Evans, Carwyn Tuipulotu, Callum Williams, Kemsley Mathias.