Jonathan Davies i arwain y Scarlets yn gêm agoriadol URC

Gwenan Newyddion

Jonathan Davies fydd yn arwain y XV sy’n cynnwys 12 chwaraewr rhyngwladol wrth i’r Scarlets cychwyn eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yng Nghaeredin yn eu stadiwm newydd ar ddydd Sadwrn (17:15).

Cyhoeddwyd mai Davies yw capten y Scarlets ar gyfer tymor 2021-22 wythnos yma, gan dderbyn y rôl wrth cyn-gapten Ken Owens.

Yn ymuno â’r canolwr yng nghanol cae fydd Scott Williams – y ddau wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant PRO12 y Scarlets yn 2017.

Johnny McNicholl bydd yng nghrys rhif 15 ym mhrifddinas yr Alban, gyda Ryan Conbeer – croesodd am bedair cais yn ystod gemau cyn tymor – yn cychwyn ar yr asgell dde a Steff Evans ar y chwith. Dan Jones sy’n dechrau yn safle’r maswr gyda Kieran Hardy fel mewnwr.

Rheng flaen ryngwladol yn enw Rob Evans, Ryan Elias a Samson Lee, wrth i Aaron Shingler cael ei enwi yn yr ail reng wrth ochr Sam Lousi sydd wedi dychwelyd o anaf.

Chwaraewr rhyngwladol yr Alban Blade Thomson fydd yn cyfuno gyda Dan Davis a Sione Kalamafoni yn y rheng ôl, yr un rheng ôl llwyddodd yn erbyn Leicester Tigers.

Ar y fainc mae Marc Jones, Phil Price a WillGriff John – a fydd yn paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys y Scarlets, wrth i Tom Price a Tom Phillips cwblhau’r eilyddion i’r blaenwyr. Dane Blacker, Sam Costelow ac Ioan Nicholas sy’n cwblhau’r fainc.

Ymysg y chwaraewyr sydd wedi’u hanafu mae Corey Baldwin wrth iddo wella o anaf i’w droed cafodd yn ystod ein gêm gyfeillgar yn erbyn Nottingham.

Prif hyfforddwyr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae pawb wedi gweithio’n galed ac mae llawer o gyffro ymysg y grŵp wrth edrych ymlaen at chwarae gêm gystadleuol. Mae’r naw wythnos diwethaf wedi ymestyn ac ar ôl llawer o waith caled mae’r bois yn edrych ymlaen at weld ein cynnydd.”

Caeredin v Scarlets (Edinburgh Rugby Stadium; 17:15; Premier Sports/S4C)

15 Johnny McNicholl; 14 Ryan Conbeer, 13 Jonathan Davies (capt), 12 Scott Williams, 11 Steff Evans; 10 Dan Jones, 9 Kieran Hardy; 1 Rob Evans, 2 Ryan Elias, 3 Samson Lee, 4 Aaron Shingler, 5 Sam Lousi, 6 Blade Thomson, 7 Dan Davis, 8 Sione Kalamafoni.

Eilyddion: 16 Marc Jones, 17 Phil Price, 18 WillGriff John, 19 Tom Price, 20 Tom Phillips, 21 Dane Blacker, 22 Sam Costelow, 23 Ioan Nicholas.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Josh Macleod (Achilles), Rhys Patchell (calf), James Davies (concussion), Leigh Halfpenny (knee), Johnny Williams (shoulder), Corey Baldwin (foot), Tomi Lewis (knee), Tom Prydie (foot), Carwyn Tuipulotu (finger), Iestyn Rees (ankle).