Bydd Jonathan Davies yn gobeithio i arwain ei dim i’w trydedd fuddugoliaeth darbi yn olynol wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Gleision Caerdydd mewn gem Guinness PRO14 nos Sadwrn.
Mae’r Scarlets wedi trechu’r Gweilch a’r Dreigiau ym Mharc y Scarlets dros yr wythnosau diwethaf, a fydd Davies yn anelu at fuddugoliaeth arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
“Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn dda. Rydym yn hyderus ar hyn o bryd ac yn mwynhau chwarae” dywedodd canolwr Cymru a’r Llewod.
“Mae’r ymarferion yma yn lot o hwyl, ac yn hyfryd i fod yn rhan o’r amgylchedd yma. Rydym wedi paratoi yn drylwyr wythnos hon ac yn edrych ymlaen at orffen y cyfnod yma o gemau PRO14 gyda thair buddugoliaeth yn olynol.”
Mae Davies wedi ymddangos yn dwy o’r tair gêm ddiwethaf ers iddo ddychwelyd o anaf hirdymor i’w ben-glin.
“Fel chwaraewyr, rydym eisiau chwarae cymaint â ni allu,” ychwanegwyd.
“Pan wyt i ffwrdd o’r gêm am gyfnod hir, mae pob cyfle ar y cae yn cael ei thrysori yn fwy.
“Ond rhaid sicrhau bod dy gorff yn iach, mae mor bwysig ac mae’r hyfforddwyr yma yn gofalu amdanom yn dda iawn.”
Wrth sôn am y sialens sydd wedi wynebu’r gwrthwynebwyr yr wythnos hon, ychwanegodd Davies: “Mae’r Gleision yn gryf iawn o amgylch y cae. Maent yn gyfforddus gyda’r bel, ac mae ganddyn nhw chwaraewyr peryglus wrth weld cyfle ac yn gallu rheoli tempo’r gêm. Mae’n bwysig ein bod yn cadw rheolaeth a ddim yn rhoi cyfle iddyn nhw ffeindio’u traed ac arwain y gêm.
“Bydd hi’n sialens, ond yn sialens cyffroes, mae’r bois yn edrych ymlaen at chwarae ar dir gwahanol, fydd hi’n gêm ddiddorol rwy’n siŵr.
“Rydym yn edrych i orffen y darbis ar nodyn uchel a pharhau gyda’n gwaith da yn Ewrop gan ein bod mewn safle da.”
Bydd Davies, sydd yn cymryd y gapentiaeth oddi wrth Steff Hughes, yn bartner i Johnny Williams yng nghanol cae ar nos Sadwrn.
“Mae’n chwaraewr gwych gyda digon o hyder a chryfder gyda’r bel” ychwanegodd.
“Beth sy’n grêt am Johnny yw ei barodrwydd i weithio. Mae’n gweithio caled iawn ar ei sgiliau unigol.
“Ers iddo ymuno’r Scarlets rwy’n gweld ei fod eisiau gwella bob amser ac eisiau chwarae ar ei gorau, ac mae hynny’n dangos yn ei berfformiadau yn arwain at y Gwanwyn cyn iddo gael anaf.
“Roedd yn magu hyder a statws. Gobeithio fe allwn gael partneriaeth dda rhyngom ni’n dau, achos nad ydyn wedi cael llawer o gyfleoedd i chwarae gyda’n gilydd eto.
“Mae Johnny wedi gweithio’n galed i fod yn barod i chwarae eto, ac rwy’n siŵr fydd yn ysu i fynd allan ar i’r cae nos Sadwrn.”