Mae Josh Macleod wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Chwe Gwlad Cymru fel un o’r 11 o chwaraewyr Scarlets ac yr unig chwaraewr heb gap yn barod.
Er i Macleod gorfod tynnu’n ôl o garfan hydref Cymru oherwydd anaf, mae’n cael ei wobrwyo am ei berfformiadau diweddar wrth gynrychioli’r Scarlets dros y tymhorau diwethaf.
Yn ymuno â Josh yn y garfan mae Wyn Jones, capten y Scarlets Ken Owens, Ryan Elias, Jake Ball, Gareth Davies, Kieran Hardy, Johnny Williams, Jonathan Davies, Liam Williams a Leigh Halfpenny.
“Rydym yn edrych ymlaen i gwrdd lan ar ddydd Llun ac i ddechrau’r ymgyrch yma,” dywedodd prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac.
“Mae’r Chwe Gwlad yn bencampwriaeth bwysig iawn ac rydym wedi dewis carfan yn unol â hynny.
“Fel y soniwyd o’r blaen, roedd yr hydref yn gyfle i ni ddatblygu cyn CYB 2023 ac fe lwyddon i wneud hynny.
“Mae’r ymgyrch yma yn wahanol, ac rydym yn edrych ymlaen at gystadlu ac i chwarae ein rhan yn y bencampwriaeth.
“Rydym wedi dewis y garfan yma yn seiliedig ar ffurf y chwaraewyr ac rydym yn edrych ymlaen at ddydd Llun i ddechrau ein paratoadau.”