Ken i arwain y Scarlets i mewn i ddarbi y Gweilch

Gwenan Newyddion

Ken i ddychwelyd fel capten i arwain y Scarlets am ddarbi Cwpan yr Enfys Guinness PRO14 yn erbyn y Gweilch ar nos Sadwrn yn Llanelli (19:35; Premier Sports).

Bydd Owens, a chafodd ei enwi ynghyd pedwar Scarlet arall fel aelodau o garfan y Llewod ddoe, yn safle’r bachwr ac yn un o chwe newid ers y golled yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade.

O ran y llinell gefn, mae Leigh Halfpenny yn cymryd lle Johnny McNicholl cefnwr ac yn ymuno â Steff Evans a Tom Rogers sydd wedi gwella o ergyd i’w ben yn ystod gêm y Dreigiau yng Nghasnewydd.

Mae Jonathan Davies a Tyler yn parhau yng nghanol cae, wrth i newid yn yr haneri gyda Angus O’Brien yn dod i mewn am Sam Costelow sydd wedi’i anafu a’r chwaraewr rhyngwladol Kieran Hardy yn dechrau am y tro cyntaf fel mewnwr ers y Chwe Gwlad.

Yn y rheng flaen mae Owens – sydd mewn yn lle Ryan Elias – gyda Rob Evans a Alex Jeffries; Jake Ball fel clo gyda Lewis Rawlins, wrth i Aaron Shingler a Jac Morgan dod i mewn i’r rheng ôl sydd yn symud Blade Thomson o flaenasgellwr i wythwr.

Ar y fainc i’r rheng flaen mae Steff Thomas, Elias a Werner Kruger ac yn ymuno nhw mae Jac Price – sydd nôl o’i fenthyciad i Nottingham – ac Uzair Cassiem ar gyfer y blaenwyr.

I’r cefnwyr mae Dane Blacker, Joe Roberts a Paul Asquith ar y fainc. Bydd Roberts, sydd wedi creu argraff dda ar ei fenthyciad i Ampthill yn y Bencampwriaeth Saesneg, am wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y PRO14.

Mae’r canolwr Steff Hughes wedi derbyn anaf i’w ben-glin yn ystod gêm y Dreigiau ac mae’n debygol fydd yn colli gweddill yr ymgyrch.

Tîm Scarlets v y Gweilch (Cwpan yr Enfys Guinness PRO14; Parc y Scarlets, Sad, Mai 8, 19:35 Premier Sports)

15 Leigh Halfpenny; 14 Tom Rogers, 13 Tyler Morgan, 12 Jonathan Davies, 11 Steff Evans; 10 Angus O’Brien, 9 Kieran Hardy; 1 Rob Evans, 2 Ken Owens (capt), 3 Alex Jeffries, 4 Jake Ball, 5 Lewis Rawlins, 6 Aaron Shingler, 7 Jac Morgan, 8 Blade Thomson.

Reps: 16 Ryan Elias, 17 Steff Thomas, 18 Werner Kruger, 19 Lewis Rawlins, 20 Uzair Cassiem, 21 Dane Blacker, 22 Paul Asquith, 23 Joe Roberts.

Ddim ar gael oherwydd anaf

Steff Hughes (knee), Sam Costelow (quad), Johnny Williams (shoulder), Dan Jones (ankle), Rhys Patchell (hamstring), Tom Prydie (foot), Josh Macleod (Achilles), Dan Davis (hamstring), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), James Davies (concussion), Danny Drake (ankle).