Bachwr Cymru Ken Owens fydd yn gapten ar dîm y Scarlets sydd i wynebu Sale yng Nghwpan Pencampwyr Heineken ar ddydd Sul (17:30 BT Sports).
Mae Owens yn un o naw aelod o garfan Cymru a enillodd y Chwe Gwlad sydd wedi’u henwi yn y 23 i chwarae ym Mharc y Scarlets.
Gwnaeth y prif hyfforddwr Glenn Delaney wyth newid i’r ochr brwydrodd am fuddugoliaeth yn erbyn Connacht yn y Guinness PRO14 tro diwethaf allan.
Bydd Leigh Halfpenny yn chwarae ei gêm gyntaf ers y gêm agoriadol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon, gan ymuno â’i gyd-chwaraewyr rhyngwladol yn y tri ôl gyda Liam Williams a Johnny Williams, sydd wedi gwella o anaf i’w ysgwydd.
Steff Hughes fydd yn cychwyn fel canolwr gyda Johnny Williams – seren y gêm yn erbyn Connacht – wrth i Gareth Davies ymuno Dan Jones fel haneri.
Yn y rheng flaen bydd Wyn Jones a Owens yn ymuno â’r prop pen tynn De Affrig Pieter Scholtz. Jake Ball fydd y clo, wrth i Aaron Shingler, Jac Morgan a Sione Kalamafoni ymgynnull yn y rheng ôl.
Ymysg yr eilyddion, mae’r prop Steff Thomas yn paratoi am ei gêm Ewropeaidd cyntaf oddi’r fainc, wrth i Blade Thomson ddychwelyd o anaf i’w ben sydd wedi ei gadw allan o’r dewis ers i’r Alban chwarae Cymru yn y Chwe Gwlad. Dane Blacker, Sam Costelow a chanolwr Cymru a’r Llewod Jonathan Davies sydd ar y fainc am y cefnwyr.
Prif hyfforddwr Glenn Delaney
“Mae Sale yn dîm da iawn ac yn gorfforol iawn fel byddwch yn disgwyl gyda’u dylanwad De Affrig, ond mae hynny’n creu llawer o gyfleoedd. Mae ganddyn nhw chwaraewyr byd enwog. Mae’n bwysig i ni chwarae ein gêm fel y rydym eisiau. Bydd hi’n debyg i gêm o wyddbwyll rhwng dau dîm cyferbyniol iawn felly fydd hi’n ddiddorol i wylio.
Mae’n grêt i gael y bois rhyngwladol nôl yn dilyn eu llwyddiant yn y Chwe Gwlad; rydym hefyd wedi ennill tair gêm o’r pedair ddiwethaf felly mae yna awyrgylch da yma. Rydym yn edrych ymlaen at y penwythnos Ewropeaidd.
Scarlets v Sale Sharks (Parc y Scarlets; Dydd Sul, Ebrill 4, 17:30, BT Sports)
15 Leigh Halfpenny; 14 Liam Williams, 13 Steff Hughes, 12 Johnny Williams, 11 Johnny McNicholl; 10 Dan Jones, 9 Gareth Davies; 1 Wyn Jones, 2 Ken Owens (capt), 3 Pieter Scholtz, 4 Jake Ball, 5 Sam Lousi, 6 Aaron Shingler, 7 Jac Morgan, 8 Sione Kalamafoni.
Reps: 16 Ryan Elias, 17 Steff Thomas, 18 Javan Sebastian, 19 Lewis Rawlins, 20 Blade Thomson, 21 Dane Blacker, 22 Sam Costelow, 23 Jonathan Davies.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Rhys Patchell (hamstring), Phil Price (knee), Kieran Hardy (hamstring), Tom Prydie (foot), Josh Macleod (Achilles), Dan Davis (hamstring), Tomi Lewis (knee), Samson Lee (concussion), Rob Evans (concussion), James Davies (concussion), Danny Drake (ankle), Ioan Nicholas (ankle).