Ken Owens yn ymuno â rhestr o chwaraewyr Scarlets fel capten Cymru

Rob Lloyd Newyddion

Pan arweiniodd Ken ei dîm allan i gae Stadiwm y Principality ar Ddydd Sadwrn, fe ymunodd â rhestr hir o chwaraewyr y Scarlets sydd wedi capteinio Cymru tra’n chwarae i’r clwb.

Yn dechrau gyda WH Thomas nôl yn 1891, mae’r rhestr yn cynnwys enwau arwyr fel Albert Jenkins, Terry Davies, Delme Thomas, Phil Bennett, Ieuan Evans, Stephen Jones, ein prif hyfforddwr Dwayne Peel a chapten presenol y clwb Jonathan Davies.

Arweiniodd Owens y Scarlets am saith dymor yn olynol ac roedd yn gapten ar dîm y Llewod yn ystod y daith yn 2017 i Seland Newydd, ond cyn Dydd Sadwrn nad oedd erioed wedi bod yn gapten ar ei wlad.

Mae’r rhestr yn cynnwys Derek Quinnell, a oedd yn gapten i Gymru yn erbyn Romania yn 1979.

Mae hanesydd y clwb Les Williams wedi twrio trwy’r archif i ddarganfod chwe chwaraewr sydd wedi arwain eu gwlad tra’n cynrychioli’r Scarlets – Dave Hodges (UDA), Salesi Finau (Tonga), Inoke Afeaki (Tonga), Simon Easterby (Iwerddon), Deacon Manu (Fiji) a John Barclay (Yr Alban).

Scarlets sydd wedi capteino Cymru

WH Thomas 1891

Alban Davies 1914

Albert Jenkins 1923 & 1928

Idris Jones 1925

Ivor Jones, 1927, 1929 & 1930

RH Williams 1960

Onllwyn Brace 1960 & 1961

Terry Davies 1960 & 1961

Norman Gale 1967 & 1968

Delme Thomas 1972

Phil Bennett 1977 & 1978

Derek Quinnell* 1979

David Pickering 1986

Jonathan ‘Jiffy’ Davies 1987 & 1988

Ieuan Evans 1991-1995

Nigel Davies 1996

Scott Quinnell 2000

Stephen Jones 2003

Dwayne Peel 2007

Matthew Rees 2010

Scott Williams 2015

Jonathan ‘Fox’ Davies 2019-21

Ken Owens 2023

(*uncapped match)