Kieran Hardy wedi’i ryddhau o garfan Cymru oherwydd anaf

Rob Lloyd Newyddion

Cafodd Kieran Hardy ei ryddhau o garfan Chwe Gwlad Cymru ar ôl anafu’r llinyn y gar yn ystod y gêm fuddugol yn erbyn Lloegr.

Rhoddodd berfformiad gwych gan sgori gais i helpu alluogi’r fuddugoliaeth 40-24, ond fe adawodd y cae yn ystod yr ail hanner i ddelio a’i anaf.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau ni fydd y mewnwr 25 oed yn chwarae rhan yn y twrnamaint bellach eleni a fydd yn parhau gyda’i adferiad gyda’r Scarlets.