Kieron Fonotia yn rhan o garfan Samoa yng ngornest Cenhedloedd y Môr Tawel ag UDA

Kieran Lewis Newyddion

Mae Kieron Fonotia wedi ei enwi yn rhan o dîm Samoa i herio’r USA Eagles yn ail rownd Cwpan Cenhedloedd y Môr Tawel ddydd Sadwrn.

Cafodd canolwr y Scarlets anaf i’w ben-glin ddiwedd tymor diwethaf, ond mae bellach yn holliach ac yn rhan o’r garfan ar gyfer yr ornest yn Suva.

Nid oedd Fonotia’n rhan o’r fuddugoliaeth o 25-17 wythnos diwethaf yn erbyn Tonga a oedd yn cynnwys ei ddarpar gyd-chwaraewr rhanbarthol Sam Lousi mewn amodau ofnadwy yn Apia.

He will join the Scarlets honours board as the 234th player to represent the club and region on the international stage.

Dechreuodd yr Eagles eu hymgyrch â buddugoliaeth, gan chwalu’r gelynion o Ogledd America, Canada, 47-19.

Yn ogystal y penwythnos hwn, bydd gwrthwynebwr Pwll Cwpan y Byd Cymru, Fiji, yn herio Canada yn Suva, tra bydd Japan a Tonga’n cwrdd yn Osaka.

SAMOA: 15 Ahsee Tuala; 14 Johnny Vaili, 13 Kieron Fonotia, 12 Henry Taefu, 11 Alapati Leiua; 10 AJ Alatimu, 9 Pele Cowley; 1 Jordan Lay, 2 Seilala Lam, 3 James Lay, 4 Teofilo Paulo, 5 Vaitoasa Senio Toleafoa, 6 Henry Stowers, 7 TJ Ioane, 8 Piula Faasalele

Replacements: 16 Elia Elia, 17 Logovii Mulipola, 18 Paul Alo-Emile, 19 Jack Lam-Kane Leaupepe, 20 Afaesetiti Amosa, 21 Auvasa Falealii, 22 Reynold Lee Lo, 23 JJ Taulagi.