LEE YN ÔL AR GYFER Y GÊM DDARBI

Natalie Jones Newyddion

Mae’r prop pentynn Samson Lee yn ôl ar gyfer y gêm ddarbi yn erbyn y Dreigiau nos Wener ym Mharc y Scarlets.

Nid yw Lee wedi chwarae ers y gêm yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Caerfaddon ym Mharc y Scarlets ac mae e’n un o un-ar-ddeg chwaraewr newydd yn y tîm a drechodd Gleision Caerdydd ym Mharc yr Arfau ar nos Galan.

Mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gwneud un-deg-tri newid i gyd, dau newid safleol, ac mae Lee yn un rhan o dair o’r reng flaen newydd gyda Rob Evans a Ken Owens hefyd yn dychwelyd ar gyfer y gêm ddarbi.

Daw Steve Cummins a David Bulbring ynghyd yn yr ail reng gyda Aaron Shingler a John Barclay yn dychwelyd i ymuno â James Davies yn y reng ôl.

Mae anafiadau i’r olwyr wedi gorfodi newidiadau gyda Rhys Patchell yn symud i safle’r cefnwr gyda Johnny Mcnicholl (ysgwydd) a Leigh Halfpenny (pec) yn absennol oherwydd anafiadau. Mae Tom Prydie yn cadw ei le ar yr asgell ac mae Ioan Nicholas yn cymryd lle Paul Asquith sy’n absennol oherwydd salwch.

Symud i safle’r canolwr mewnol y mae Hadleigh Parkes gyda Steff Hughes yn dod i mewn i’w bartneri. Aled Davies sy’n dechrau yn safle’r mewnwr gyda Dan Jones yn safle’r maswr.

Ar y fainc mae’r mewnwr Jonathan Evans yn dychwelyd ar ôl dioddef anaf i’w bigwrn yn erbyn Southern Kings yn Ne Affrica

Wrth edrych ymlaen i’r gêm dywedodd Wayne Pivac: “Mae’r gemau darbi wedi bod yn gemau agos. Fe fyddwn ni’n ffocysu ar ein hunain. Mae’n gêm ddarbi arall ac ry’n ni wedi gweld dros y ddwy gêm diwethaf eu bod nhw’n gemau agos. Fe fydd hwn yn gêm gyffrous arall does dim dwywaith am hynny.

“Ry’n ni wedi gwneud y dwbwl dros y Gweilch a’r Gleision a hwn fydd y tro cyntaf i ni wynebu’r Dreigiau y tymor hwn. Mae’n bwysig i ni gadw ennill adref.”

Tîm y Scarlets i wynebu’r Dreigiau ar nos Wener 5ed Ionawr, cic gyntaf 7.35pm ym Mharc y Scarlets;

15 Rhys Patchell, 14 Tom Prydie, 13 Steff Hughes, 12 Hadleigh Parkes, 11 Ioan Nicholas, 10 Dan Jones, 9 Aled Davies, 1 Rob Evans, 2 Ken Owens ©, 3 Samson Lee, 4 Steve Cummins, 5 David Bulbring, 6 Aaron Shingler, 7 James Davies, 8 John Barclay

Eilyddion; Ryan Elias, Wyn Jones, Simon Gardiner, Lewis Rawlins, Will Boyde, Jonathan Evans, Rhys Jones, Morgan Williams

Mae hawl gan bob ddaliwr tocyn tymor i dderbyn pâr o docynnau yn rhad ac am ddim i’r gêm. I dderbyn eich tocynnau cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 783933.

Mae tocynnau ar gael o eticketing.co.uk/scarletsrugby hefyd.